Statws gwarchodedig ar gyfer dau fusnes bwyd a diod o Sir Benfro

0
223
Laverbread Processed with VSCO with fp8 preset

Welsh Government News

Mae’r Pembrokeshire Beach Food Company a Velfrey Vineyard yn dathlu ar ôl ymuno â rhestr o gynhyrchwyr o Gymru i weld eu cynnyrch yn cael statws gwarchodedig.

Mae Velfrey Vineyard wedi derbyn Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) am ei gwinoedd Velfrey NV Traditional Method Sparkling Brut a ‘Rhosyn’ 2021 Traditional Method Vintage Sparkling Brut Rosé.

Wedi’i leoli yn The Old Point House ym Mae East Angle, mae’r Pembrokeshire Beach Food Company wedi derbyn statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig (PDO) am ei Bara Lawr Cymreig.

Mae’r cynlluniau Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig  ac Enw Tarddiad Gwarchodedig yn gwarchod enw cynnyrch sy’n dod o ranbarth benodol ac yn dilyn proses gynhyrchu benodol.

Velfrey Vineyard, sydd wedi’i leoli ger Arberth, yw Cynhyrchydd Diodydd Bach y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru.  Wedi’i sefydlu yn 2016, mae gan Velfrey dros 4,000 o winwydd wedi’u plannu ar draws tair erw, ac mae’n winllan deuluol sy’n ymfalchïo mewn rhoi sylw i bob manylyn.

Mae’r gwinoedd yn cael eu gwneud o dri math o rawnwin, yn enwedig Pinot Noir, Seyval Blanc, a Solaris.  Mae’r winllan yn cael ei rhedeg gan y cwpl Andy a Fiona Mounsey ynghyd â’u mab Ryan a’i wraig Sophie.

Meddai Andy Mounsey o Velfrey Vineyard: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig am winoedd wedi’u gwneud o rawnwin a dyfwyd yn ein gwinllan yn Sir Benfro. Nid yn unig bod hyn yn rhoi sicrwydd i’n cwsmeriaid am darddiad ac ansawdd y gwinoedd, mae hefyd yn ein galluogi i ddatgan yn falch ar y labeli mai gwin pefriog Cymreig yw hwn.

“Mae ein gwin sych pefriog NV wedi ei ddewis gan banel o feirniaid nodedig o WineGB fel un o 100 gwin gorau’r DU, tra bod ein Rhosyn sydd newydd ei lansio yn cael cymeradwyaeth ac archebion gan arbenigwyr gwin hynod wybodus.

“Mae’n wych bod gwin o Sir Benfro yn cael y math hwn o gydnabyddiaeth.”

Yn 2010, agorodd Café Môr gan Jonathan Williams sy’n teimlo’n angerddol am fwyd môr. Yn 2012, ar ôl sefydlu’r busnes, denodd fuddsoddiad a daeth yn rhan o’r Pembrokeshire Beach Food Company.

Gwneir bara lawr o wymon wedi’i goginio sydd wedi’i gasglu â llaw o arfordir Cymru ac sydd yn rhan o hanes Cymru fel ffynhonnell hanfodol o faeth.

Dyfarnwyd Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig i Bara Lawr Cymru yn 2017 i ddathlu ei gysylltiadau cynhenid â morluniau a chymunedau Cymru.

Meddai Jonathan Williams o The Pembrokeshire Beach Food Company: “Mae bara lawr yn rhan bwysig o hanes bwyd Sir Benfro ac rydym yn falch iawn o dderbyn y statws hwn.

“Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio bara lawr yn ein menyn gwymon, Welsh Rarebit Cimwch a hyd yn oed yn ein cacennau cri.

“Mae statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig yn golygu bod gan ddefnyddwyr yr hyder o wybod eu bod yn bwyta cynnyrch Cymreig go iawn. Byddwn yn parhau i sicrhau ei fod yn cael ei goginio i’r safonau uchaf fel y gall pobl o bell ac agos fwynhau ein bara lawr Cymreig.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’n newyddion gwych bod dau fusnes bwyd a diod o Sir Benfro yn gweld eu cynnyrch gwych yn cael statws gwarchodedig haeddiannol.

“Mae Bara Lawr yn un o ddanteithion Cymru ac mae gwaith caled ac ymrwymiad Jonathan a’r tîm i gynhyrchu cynnyrch o safon uchel o’n harfordir yn cael ei gydnabod.

“Mae Cymru hefyd yn cynhyrchu rhai o’r gwinoedd arloesol gorau, mwyaf cydnabyddedig yn fyd-eang. Mae diwydiant gwin Cymru yn ffynnu ac mae Velfrey Vineyard yn rhan bwysig o’r llwyddiant hwn.

“Llongyfarchiadau mawr i’r ddau gwmni.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle