Unwaith eto mae Coleg Cambria wedi cyrraedd rowndiau terfynol seremoni wobrwyo fawreddog sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant ac amrywiaeth.

0
249
Yana Williams

Mae’r coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – yn y ras ar gyfer Gwobr RCU ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC).

Cafodd Cambria ganmoliaeth yng Ngwobr Grŵp NOCN ar gyfer categori Iechyd Meddwl a Llesiant.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol yr AoC yn Birmingham, a bydd yr holl enwebedigion yn cael eu hymweld gan aseswyr annibynnol dros y misoedd nesaf, gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Cambria: “ Mae ein hymrwymiad hir dymor i amrywiaeth a chynhwysiant yn un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer ein staff a’n dysgwyr, felly mae’n galonogol iawn bod hynny wedi cael ei adnabod unwaith eto gan yr AoC, rydyn ni’n falch iawn,” meddai hi.

“Mae iechyd meddwl a llesiant ein cymuned coleg yn ganolog, yn enwedig yn dilyn y pandemig, sydd wedi cael ei gyfeirio ato gan yr AoC, yn ogystal â’r cyrsiau amrywiol a chynhwysol i’r niwroamrywiol rydyn ni’n eu cyflwyno.

“Hoffwn i ddiolch i’r holl staff a’r timau ar draws Cambria sydd wedi chwarae rhan yn hyn a dwi’n addo mi fyddwn ni’n parhau i godi’r disgwyliadau yn y meysydd yma.”

O ran Iechyd Meddwl a Llesiant, nododd yr AoC fod y coleg wedi gweld cynnydd sylweddol mewn datgeliadau ac atgyfeiriadau iechyd meddwl a llesiant ers 2019/20, gyda’r pandemig yn effeithio ar ymateb trawma mewn llawer o bobl ifanc.

Gwnaeth Cambria ymateb yn rhagweithiol, gan ddatblygu fel ‘amgylchedd sy’n ystyriol o drawma’ ac ymateb gyda dull cadarnhaol ac arloesol i fodloni anghenion a darparu cymorth ar gyfer ymddygiadau newydd a datblygol yn yr ystafell ddosbarth.

Gwnaeth hyfforddiant cynhwysfawr, adolygiad o bolisïau a phrosesau a datblygu adnoddau effeithio ar lesiant a phrofiad dysgwyr a staff ac roedd y fenter hon yn cefnogi diwylliant traws-golegol o garedigrwydd, goddefgarwch ac urddas, y sbardun ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo tegwch a llesiant.

Yn y categori Cymorth i Fyfyrwyr, cafodd y coleg ganmoliaeth am eu Cyrsiau Technoleg (Niwroamrywiol) gan gynnwys Technolegau Digidol, sydd wedi’u dylunio i alluogi unigolion sydd â chyflyrau cyfathrebu fel awtistiaeth i lwyddo’n academaidd a chymdeithasol mewn lleoliad prif ffrwd.

Cafodd hyn ei gyflawni trwy raglen astudio sy’n cyfuno strategaethau a thechnegau ymarferol sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion dysgwyr unigol.

Mae Gwobrau Beacon AoC yn dathlu a thynnu sylw at arfer gorau a mwyaf arloesol ymhlith colegau addysg bellach y DU. Nod y rhaglen wobrwyo ydy dangos a hyrwyddo effaith pellgyrhaeddol colegau ar eu myfyrwyr a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Wodrau Beacon AoC, dilynwch @nfcdiversity a @aoc_info ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch yr hashnodau #AoCBeacons a #CaruEinColegau.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle