Mwynhewch ddathliadau’r ŵyl gyda thocynnau diwrnod hanner pris ar TrawsCymru

0
198
Traws Cymru_launch

Transport For Wales News

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i arbed arian a mwynhau tymor yr ŵyl drwy gynnig tocynnau hanner pris ar lwybrau TrawsCymru T1, T1C, T2, T3, T3C, T6, T8 a T10 ar ddyddiau Gwener yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan gânt eu prynu ar ap TrawsCymru.

Bydd tocynnau diwrnod* a brynwyd ar ap TrawsCymru ar gyfer unrhyw un o’r llwybrau uchod ar 24 Tachwedd, 1, 8, 15 neu 22 Rhagfyr yn cael eu disgowntio’n awtomatig wrth y ddesg dalu a gellir eu defnyddio i neidio ymlaen ac oddi ar y gwasanaeth hwnnw gymaint o weithiau ag y dymunwch mewn dydd.  Bydd 1 tocyn diwrnod hanner pris ar gael i gwsmeriaid ar y llwybrau uchod ar bob diwrnod o’r arwerthiant.

Teithiwch ar ein gwasanaeth T1 rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth trwy’r dydd am dim ond £3.50 neu mwynhewch ddiwrnod o siopa Nadolig yn Abertawe neu Aberhonddu gyda’n gwasanaeth T6 am £4 yn unig. Edrychwch ar ein prisiau gwych eraill isod neu cynlluniwch eich diwrnod allan gan ddefnyddio ein teclyn cynllunio taith.

Gellir defnyddio tocynnau unrhyw bryd o fewn blwyddyn i’w prynu, felly manteisiwch ar y cynnig gwych hwn a chynlluniwch eich taith nawr.

Prisiau tocynnau dydd – gostyngiad o 50%

T1
Caerfyrddin – Aberystwyth trwy Llanbedr Pont Steffan a Thregaron
£3.50 oedolion, £2.32 plentyn a fyngherdynteithio

Llanbedr Pont Steffan – Aberystwyth
£2.87 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio

Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin
£2.87 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio

T1C
Caerdydd – Aberystwyth drwy Fae Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin, Llandysul ac Aberaeron
£6.50 oedolion, £3.65 plentyn a fyngherdynteithio

T2
Aberystwyth – Bangor drwy Fachynlleth, Dolgellau, Porthmadog a Chaernarfon
£3 oedolion, £1.70 plentyn a fyngherdynteithio

T3/T3C
Abermaw – Wrecsam drwy Ddolgellau, Y Bala, Corwen, Berwyn, Llangollen a Rhiwabon
£3 oedolion, £1.70 plentyn a fyngherdynteithio

T6
Abertawe – Aberhonddu drwy Gastell-nedd, Ystradgynlais a Phontsenni
£4 oedolion, £2 plentyn a fyngherdynteithio

T8
Corwen – Caer trwy Rhuthun a’r Wyddgrug
£2.90 oedolion, £1.60 plentyn a fyngherdynteithio

T10
Bangor – Corwen trwy Betws-y-Coed
£2.85 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle