Apêl yn anelu at godi £100,000 ar gyfer gerddi therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip

0
230

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi lansio apêl newydd i godi £100,000 i ariannu gerddi therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Gyda chefnogaeth y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens, nod Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip yw codi’r arian sydd ei angen i greu dwy ardd newydd ar gyfer cleifion hŷn, eu teuluoedd a staff wardiau Mynydd Mawr a Bryngolau.

Mae ward Mynydd Mawr yn uned adsefydlu gofal yr henoed; Uned iechyd meddwl oedolion hŷn yw ward Bryngolau.

Dywedodd Nigel: “Rwy’n gwybod cystal ag unrhyw un pa mor bwysig yw hi i’ch iechyd corfforol a meddyliol i fynd allan i’r awyr iach.

“Yn anffodus, nid yw’r gofod awyr agored rhwng wardiau Mynydd Mawr a Bryngolau yn addas i gleifion ar hyn o bryd.

“Rydym yn gofyn i’r gymuned leol ein helpu i ddarparu mannau gwyrdd newydd i rai o’r cleifion mwyaf agored i niwed yn Ysbyty Tywysog Philip a fydd yn rhoi hwb gwirioneddol i’w llesiant.”

Dywedodd Clare, claf ym Mynydd Mawr: “Rwy’n gweld eisiau mynd allan. Mae’n gwneud i chi deimlo’n wych i fynd allan. Byddai eistedd mewn gardd yn hyfryd.”

Dywedodd Luke Bennett, Uwch Nyrs ym Mryngolau: “Bydd y gerddi newydd yn cefnogi adferiad trwy ddarparu mannau diogel, llawen ac iachusol lle gall ein cleifion hŷn fwynhau awyr iach, ymarfer corff a theimlo’n agos at natur.

“Bydd y gerddi hefyd yn darparu amgylchedd tawel i staff a theuluoedd. Bydd yn trawsnewid sut brofiad yw bod ar y wardiau.”

Mae’r Apêl yn cael ei reoli gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian yr elusen: “Rydym yn galw ar ein cymunedau lleol gwych i gyfrannu neu godi arian fel y gallwn greu mannau arbennig iawn a fydd ag ystyr ac arwyddocâd i bawb sy’n eu defnyddio.

“Bydd hyd yn oed rhodd fach yn gwneud gwahaniaeth mawr!”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gefnogi’r ymgyrch, ewch i:https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/apel-gerddi-ysbyty-tywysog-philip/, e-bostiwch: fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk, neu ffoniwch: 01267 239815. Gall cefnogwyr hefyd gyfrannu £5 yn uniongyrchol i’r ymgyrch drwy decstio GARDENS i 70560.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle