Tair Cenhedlaeth o Ddiffoddwyr Tân: Dros 73 Mlynedd o Wasanaeth

0
288

Mae gwaith tîm a diogelu ein cymunedau wrth galon popeth a wnawn yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae hyn wedi’i amlygu gan y teulu Jones o Gastellnewydd Emlyn.

Mae tair cenhedlaeth o’r teulu – Gareth, Emyr a Cian – wedi gwasanaethu fel diffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, gyda chyfanswm rhyngddynt o dros 73 mlynedd o wasanaeth ac ymroddiad hyd yma – ac mae’r rhif hwnnw’n dal i godi!

Ymunodd Gareth Jones â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (a elwid bryd hynny yn Frigâd Dân Dyfed) ym 1975, ymunodd ei fab, Emyr Jones, fel diffoddwr tân ar alwad ym 1996 ac yn fwyaf diweddar, ymunodd mab Emyr ac ŵyr Gareth, Cian Jones, fel diffoddwr tân ar alwad ym mis Mehefin 2023 – wythnos ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed.

Nid yn unig y mae Cian wedi dilyn yn ôl troed ei dad a’i dad-cu, ond mae hefyd wedi etifeddu rhif Gwasanaeth blaenorol ei dad-cu.

 

 

Gareth Jones 01-2

 

Gareth Jones

Gareth yw aelod hynaf y teulu a threuliodd 45 mlynedd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru drwy wahanol fersiynau’r gwasanaeth hwnnw.

Roedd Gareth yn 25 oed pan ymunodd â’r Gwasanaeth fel diffoddwr tân ar alwad ym 1975. Roedd ganddo ffrindiau a oedd eisoes yn gweithio fel diffoddwyr tân ac roedd yr orsaf dân yn recriwtio am fwy, felly dyma wneud cais.  Yn ystod ei yrfa, treuliodd Gareth 19 mlynedd fel Rheolwr Gwylfa Gorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, cyn symud ymlaen i weithio gyda Thîm Diogelwch Cymunedol y Gwasanaeth. Gareth oedd yn gyfrifol am gychwyn rhaglen allgymorth ysgolion y Gwasanaeth a goruchwyliodd y gwaith o gyflwyno Rhaglen Addysg Diogelwch Tân y Gwasanaeth, i gyflwyno gwybodaeth a chanllawiau diogelwch tân i ysgolion o fewn ardal y Gwasanaeth.

Un o’r digwyddiadau mwyaf nodedig y mae Gareth yn cofio ei fynychu yw tân Purfa Amoco ym mis Awst 1983 yn Aberdaugleddau. Yn y digwyddiad hwn, bu i danc storio olew oedd yn cynnwys dros 46,000 tunnell o olew crai fynd ar dân a thanio yn llawn yn y pen draw. Gall Gareth gofio gorfod mynd i mewn i siambrau tanddaearol o dan y tancer oedd ar dân i osod monitorau daear.

Wrth gofio tân Purfa Amoco, dywedodd Gareth:

“Rwy’n cofio pob un ohonom yn mynd i mewn i’r siambr danddaearol gyfyng hon a bod yn ymwybodol iawn o ba mor beryglus ydoedd.  Roedd gan y rhan fwyaf ohonom a oedd ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw deuluoedd ifanc gartref ac, fel y Rheolwr Gwylfa, dywedais wrth fy nghyd-aelodau o’r criw, os oeddent am droi’n ôl, y dylent wneud hynny. Wnaeth neb droi’n ôl, a’r cyfeillgarwch a’r elfen o gefnogi’n gilydd yw’r hyn a fwynheais fwyaf wrth weithio fel diffoddwr tân.

Wrth ymdrin â digwyddiadau heriol, mae pawb yn cael eu trin a’u cefnogi’n gyfartal, waeth beth fo’u rheng, ac mae pawb yn cael eu gweld fel unigolyn.”

Pan ofynnwyd iddo am y newidiadau a brofodd drwy gydol ei yrfa, dywedodd Gareth:

“Y newidiadau mwyaf a welais oedd y datblygiadau mewn technoleg, o’r peiriannau i’r cit diffodd tân, mae’n anhygoel meddwl heddiw, pan ddechreuais i fel diffoddwr tân, nad oedd gennym ni setiau offer anadlu.

“Doedd dim teclynnau galw chwaith, byddai seiren fawr ar ben tŵr yr orsaf yn seinio i hysbysu’r holl ddiffoddwyr tân ar alwad am ddigwyddiad.  Pan fyddech chi’n cyrraedd yr orsaf, byddech chi’n ateb y ffôn ac yn ysgrifennu manylion y digwyddiad mor gyflym ag y gallech, gan gofio ceisio anadlu ar yr un pryd. Pan gyflwynwyd teclynau galw am y tro cyntaf, roedden nhw’n ddyfeisiau mawr, trwm, tebyg i frics!”

 

Amoco Refinery Fire 01-2

 

Tân purfa Amoco yn Aberdaugleddau, Awst 1983.

 

Three Generations 04 - Hefin Jones-2

 

O’r chwith i’r dde: Emyr Jones, Gareth Jones a Hefin Jones adeg ymddeoliad Gareth o’r Gwasanaeth.

 

 

Emyr Jones 01-2

 

Emyr Jones

Gan ddilyn yn ôl troed ei dad, ymunodd Emyr fel diffoddwr tân ar alwad yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn ym 1996, cyn dod yn ddiffoddwr tân amser llawn ym 1999.  Aeth Emyr ymlaen i dreulio dros 10 mlynedd fel Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn ac mae ar fin nodi 28 mlynedd o wasanaeth.

Treuliodd Emyr a Gareth gyfanswm o chwe blynedd yn gweithio gyda’i gilydd mewn gwahanol swyddogaethau yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, ynghyd â brawd Emyr, Hefin Jones.  Ar ôl treulio dros 24 mlynedd fel diffoddwr tân amser llawn, mae Emyr ar hyn o bryd ar secondiad ym Mhencadlys y Gwasanaeth, lle mae’n datblygu ac yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o ymosodiadau terfysgol difaol i bob criw gweithredol, yn ogystal â darparu gwasanaeth gweithredol yn ardal Ceredigion.

Dywed Emyr mai cefnogi ac amddiffyn y gymuned leol a gwaith tîm yw’r pethau gorau am fod yn ddiffoddwr tân:

“Mae yna deimlad gwirioneddol o fod yn rhan o deulu, nid yn unig o fewn eich criw eich hun ond gyda gorsafoedd eraill hefyd, boed hynny wrth i ni ymateb i ddigwyddiadau, ymgymryd â hyfforddiant neu fynychu digwyddiadau diogelwch cymunedol.

Nid yw hyn yn gyfyngedig i fod ar ddyletswydd chwaith – mae llawer ohonom yn cymdeithasu y tu allan i’r gwaith ac rwyf wedi gwneud ffrindiau oes yn ystod fy ngyrfa.”

Yn ystod gyrfaoedd Gareth ac Emyr, gwelwyd ffurfio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ym 1996, yn dilyn uno Brigadau Tân Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru.

 

 

Cian Jones 01-2

 

Cian Jones

Dechreuodd Cian ei hyfforddiant i fod yn ddiffoddwr tân ar alwad ganol mis Mehefin 2023 – wythnos ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed.

Ar ôl tyfu i fyny gyda’i dad-cu a’i dad yn gweithio fel diffoddwyr tân, roedd gan Cian ddiddordeb cynnar mewn dod yn ddiffoddwr tân ei hun.  Y tu allan i’w rôl gyda’r Gwasanaeth, mae Cian yn gweithio fel plastrwr ac er ei fod yng nghyfnod cynnar ei yrfa, mae’n dyheu am ddod yn ddiffoddwr tân amser llawn yn y pen draw. Mae 3408 yn rhif pwysig i Cian – dyma ei rif Gwasanaeth ef, ond hefyd rhif ei dad-cu cyn iddo ymddeol o’r Gwasanaeth.

Mae’r digwyddiadau diweddar y mae Cian wedi bod yn bresennol ynddynt yn cynnwys gwrthdrawiad traffig ffordd, gan roi iddo ei gysylltiad ymarferol cyntaf ag argyfwng bywyd go iawn, ac yn sgil hyn mae’n awyddus i ennill mwy o brofiad.

Pan ofynnwyd iddo am ei rôl newydd fel diffoddwr tân ar alwad, dywedodd Cian:

“Rwy’n falch o fod yn dilyn yn ôl troed fy nhad a fy nhad-cu drwy wasanaethu cymuned Castellnewydd Emlyn. Rwy’n mwynhau’r wefr o fod Ar Alwad ac ymateb i ddigwyddiadau, yn ogystal â gweithio fel tîm gydag aelodau eraill y criw. Fel chwaraewr rygbi a phêl-droed brwd, mae gen i feddylfryd cryf o ran gwaith tîm yn barod.  Rwy’n mwynhau’r profiad yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at ddatblygu fy ngyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub.”

 

Nid Gareth, Emyr a Cian yw unig aelodau’r teulu sy’n gweithio yn y Gwasanaeth – mae mab arall Gareth a brawd Emyr, sef Hefin Jones, hefyd yn aelod o staff.  Fel Emyr, dilynodd Hefin ei dad gan dreulio dros 10 mlynedd fel diffoddwr tân ar alwad ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel aelod o Adran Pobl a Datblygiad Sefydliadol y Gwasanaeth.  Gyda’i gilydd, mae gan bob un o’r pedwar aelod o’r teulu bron i 90 mlynedd o wasanaeth ac ymroddiad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a’r cymunedau y mae’n eu gwarchod.

 

Dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad

Mae Gareth, Emyr a Cian i gyd yn cytuno bod gweithio fel diffoddwr tân yn rhoi boddhad mawr ac yn yrfa hynod o werth chweil. Mae gwaith tîm wrth wraidd popeth y mae diffoddwyr tân yn ei wneud ac mae eu rolau yn rhoi’r cyfle i amddiffyn ac ymgysylltu â’u cymuned leol.

Mae yna hefyd lawer o gyfleoedd a chymhellion i ddatblygu eich gyrfa o fewn y Gwasanaeth trwy amrywiaeth o gyrsiau a hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus.  Mae mwy o wybodaeth am recriwtio diffoddwyr tân ar alwad ar gael ar Wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Three Generations 01-2

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle