Camau nesaf ar gyfer Gwasanaethau Pediatrig

0
202
Hywel Dda UHB - Paediatric consultation

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn yr adroddiad gwerthuso annibynnol terfynol yn dilyn diwedd ei ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar newidiadau posibl i wasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid (Pediatreg) yn Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg.

Comisiynwyd ac ysgrifennwyd yr adroddiad gan Opinion Research Services (ORS), sydd wedi cynghori, coladu a rheoli’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn annibynnol.

Roedd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023, yn gwahodd y cyhoedd, staff y bwrdd iechyd, sefydliadau partner, a’r gymuned ehangach i rannu eu barn ar sut y dylid darparu gwasanaethau pediatrig.

Yn dilyn y newidiadau dros dro i wasanaethau pediatrig a wnaed ers 2016, mae angen i’r bwrdd iechyd bellach ddod o hyd i ateb mwy hirdymor, a fydd ar waith hyd nes y bydd yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn cael ei ddatblygu.

Cyflwynwyd a gofynnwyd i ymatebwyr i’r ymgynghoriad ystyried tri opsiwn ar gyfer newidiadau i’r gwasanaethau presennol a ddarperir yn Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Ar hyn o bryd, nid oes opsiwn a ffefrir o ran sut y bydd gwasanaethau pediatrig brys ac argyfwng yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar gyfer pob un o’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal brys plant yn cael ei gadw yn adran achosion brys Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau plant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Hefyd, mae systemau eisoes ar waith i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflyrau critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael ac yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’r gwasanaeth newydd.”

Fel rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol, gofynnwyd i nifer o grwpiau rhanddeiliaid byrddau iechyd gymryd rhan mewn proses a elwir yn ystyriaeth gydwybodol. Roedd hyn yn golygu eu bod yn darllen adroddiad ORS ochr yn ochr â’r holl dystiolaeth arall a gwybodaeth berthnasol a gasglwyd yn ystod y broses hyd yn hyn, gan ystyried yr opsiynau sydd ar gael, ac yna eu gwerthuso. Wrth wneud hynny, gofynnwyd iddynt a oedd unrhyw newidiadau pellach y dylai’r bwrdd iechyd eu hystyried, a oedd yr adroddiad wedi nodi’r holl faterion cydraddoldeb, ac unrhyw bwyntiau terfynol nad oedd wedi’u nodi eisoes. Mae’r broses hon yn parhau.

Bydd adroddiad terfynol ORS, ynghyd ag allbwn y broses ystyriaeth gydwybodol, a’r adroddiadau technegol a masnachol, yn cael eu hystyried mewn cyfarfod o’r Bwrdd ddydd Iau 30 Tachwedd 2023 am 9.30am. Yn ystod y cyfarfod hwn, gofynnir hefyd i aelodau Bwrdd y bwrdd iechyd ystyried yn gydwybodol ganfyddiadau allweddol adroddiad ORS ochr yn ochr â chanfyddiadau o ystyriaethau’r grwpiau rhanddeiliaid eu hunain. Bydd y Bwrdd wedyn yn penderfynu pa opsiwn i symud ymlaen ag ef.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i’r gymuned, staff, sefydliadau partner a phawb a roddodd o’u hamser i gwrdd â ni a rhannu eu barn yn ystod y broses ymgynghori hon. Mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn y broses ymgynghori wrth iddo ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd.”

Mae cyfarfod y bwrdd ar gael i’r cyhoedd ei weld, mae manylion sut i wneud hynny ar gael ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/  Mae papurau’r Bwrdd a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hefyd ar gael ar yr un ddolen.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/gwasanaethau-plant-yn-y-dyfodol


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle