Lesley Griffiths Aos Yn Cefnogi Ymgyrch Y Samariaid Sy’n Canolbwyntio Ar Leihau Nifer Yr Hunanladdiadau Ym Maes Ffermio Yn Ystod Ei Hymweliad  Changen Bangor

0
113

Bu Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn ymweld â Samariaid Bangor i weld gwaith hollbwysig gwirfoddolwyr sy’n achub bywydau ac sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg a’r cymunedau ffermio a gwledig lleol yng ngogledd Cymru a thu hwnt.

Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymysg y rhai sy’n ffermio ac yn gweithio ym maes amaethyddiaeth, ac mae unrhyw hunanladdiad yn cael effaith enfawr ar ffrindiau, teulu, cydweithwyr a’r gymuned ehangach. Mae ffermwyr a gweithwyr amaethyddol yn wynebu pwysau unigryw gan gynnwys oriau gweithio hir, risg o anaf corfforol, pryderon ariannol ac unigrwydd ac ynysigrwydd sy’n gallu cynyddu’r risg o iechyd meddwl gwael a risg hunanladdiad. Ceir risg uchel yn benodol ymysg ffermwyr ifanc ledled y DU.  

Mae’r Samariaid yn mynd i geisio torri cylch risg hunanladdiad yng nghefn gwlad Cymru drwy lansio’r prosiect ‘Ein Ffermio, Ein Dyfodol’ yn 2024. Caiff y prosiect ei gyflawni mewn partneriaeth ag elusen cymorth ffermio TIR Dewi a bydd yn gweithio’n agos â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a’u haelodau. 

Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru:  

“Hoffem feithrin cydnerthedd cymunedol drwy roi’r arfau i ffermwyr ifanc wneud gwahaniaeth yn eu bywydau eu hunain, yn ogystal â chanfod ffyrdd o edrych ar ôl eu hunain a’r bobl o’u cwmpas er mwyn sicrhau y caiff mwy o bobl y cymorth sydd ei angen arnynt a lleihau eu risg hunanladdiad yn y pen draw.” 

  Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael effaith ar eu dyfodol ym maes ffermio – i dorri cylch hunanladdiad a’r ffactorau risg sydd wedi effeithio ar eu rhieni, teuluoedd a chymunedau, trwy fynd i’r afael â’r stigma ynghylch ceisio cymorth a sefydlu rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid a  dysgu a rennir.  

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: 

“Roeddwn yn falch i weld y gwaith hollbwysig sy’n achub bywydau mae Samariaid Bangor yn ei gyflawni yn y gymuned leol. Maen nhw wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl mewn trallod, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg sy’n gallu cysylltu â nhw ar y Llinell Gymorth Gymraeg. 

  Mae’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn byw yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae gwirfoddolwyr cangen Bangor yn cynnal y llinell gymorth Gymraeg saith diwrnod yr wythnos, gan alluogi siaradwyr Cymraeg i geisio cymorth yn eu hiaith gyntaf am bedair awr bob dydd.  

Cafodd y gweinidog brofiad o lygad y ffynnon o bwysigrwydd y gwasanaeth llinell gymorth Gymraeg yn cefnogi anghenion iechyd meddwl y boblogaeth Gymraeg ei hiaith.  

Ychwanegodd Lesley Griffiths:  

“Mae’n amlwg bod y llinell hon yn hollbwysig i lawer o bobl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai mewn cymunedau gwledig a chymunedau ffermio. Nododd y gangen bwysigrwydd rhoi mynediad i bobl i gymorth emosiynol yn eu hiaith gyntaf ac rwyf yn cefnogi’r fenter hon yn fawr.  

“Roedd yn bleser clywed am waith ehangach y Samariaid yn cefnogi pobl mewn cymunedau gwledig a chymunedau ffermio. Mae eu gwaith yn achub bywydau ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am eu prosiectau yn y dyfodol.” 

Ychwanegodd Lynda, Cyfarwyddwr Cangen Bangor y Samariaid:

“Yn y Samariaid, rydym yn cefnogi unrhyw un sydd ein hangen ni, unrhyw le yng Nghymru. Os ydych chi’n cael trafferth i ymdopi, am ba bynnag reswm, cysylltwch â’r Samariaid. Gwyddom pa mor bwysig yw hi i gael cymorth yn eich iaith gyntaf ac mae ein gwirfoddolwyr ym Mangor yma i wrando arnoch chi. Gallwch ein ffonio ni yn ddi-dâl ar 0808 164 0123 rhwng 7pm a 11pm, 7 diwrnod yr wythnos.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle