Urdd Gobaith Cymru werth bron £45 miliwn i economi Cymru yn 2022-23

0
262
Credit: www.urdd.cymru

£44.9 miliwn oedd cyfraniad Urdd Gobaith Cymru i economi Cymru yn 2022-23 yn ôl adroddiad annibynnol newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 29 Tachwedd) mewn digwyddiad yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd.

Mewn cyfnod o bum mlynedd mae gwerth economaidd yr Urdd wedi cynyddu o £25.5 miliwn i £44.9 miliwn (sy’n gynnydd o 76%) a throsiant y Mudiad wedi cynyddu o £10.2 miliwn i £19.6 miliwn (88%).

Ynghyd â gwerth economaidd mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw penodol i statws yr Urdd fel cyflogwr i bobl ifanc yng Nghymru.

Dyma grynodeb o brif ganfyddiadau’r adroddiad gan gwmni Arad:

  • Cynhyrchodd wersylloedd yr Urdd gyfanswm o £7.9 miliwn o werth economaidd o fewn eu cymunedau.
  • Cynhyrchodd weithgareddau chwaraeon yr Urdd £6.1 miliwn o werth economaidd yng Nghymru.
  • Am bob £1 o incwm a dderbyniwyd, cynhyrchodd Eisteddfod yr Urdd werth o £6.96.
  • Mae 42% o’r 362 aelod o staff sy’n gyflogedig gan yr Urdd o dan 25 oed, a 38% o aelodau byrddau cenedlaethol strategol yr Urdd rhwng 18 a 25 oed.
  • Gwelwyd cynnydd o 109% yn y nifer o Brentisiaethau newydd ers 2018, o 35 i 73 y flwyddyn.
  • Mae 80% o’r rheiny sydd wedi cwblhau cynllun Prentisiaeth yr Urdd mewn cyflogaeth gan y Mudiad.

Yn dilyn asesiad blaenorol o werth economaidd yr Urdd yn 2018, prif nod yr adroddiad gan gwmni Arad oedd cydnabod gwerth economaidd yr Urdd yn genedlaethol, yn ogystal â gwerth economaidd nifer o adrannau unigol y Mudiad, sy’n cynnwys Gwersylloedd yr Urdd (Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd), Chwaraeon, Prentisiaethau, Eisteddfod a’r Celfyddydau, Ieuenctid a Chymuned.

Mae’r arolwg hefyd yn datgan bod y gweithgareddau a ddarperir gan yr Urdd yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau pobl ifanc tuag at Gymru a’r Gymraeg, ynghyd â’u hyder, lles, sgiliau cymdeithasol ac emosiynol. At hynny, mae dysgwyr yr Adran Brentisiaethau yn teimlo bod cymorth llwyr iddynt drwy gydol eu taith.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Comisiynwyd cwmni ymchwil Arad i asesu gwerth economaidd yr Urdd i Gymru, ac mae’n deg dweud ein bod yn hynod falch o’r ffigurau. Nod yr Urdd yw sicrhau profiadau a gweithgareddau drwy’r Gymraeg i ieuenctid Cymru ond mae’r adroddiad yma yn profi ein bod yn mynd uwchlaw ein hamcanion drwy greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru.

“Bellach gyda 362 o staff, yr Urdd yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y Gymraeg, ynghyd â’r prif ddarparydd Prentisiaethau drwy’r Gymraeg oddi fewn y trydydd sector yng Nghymru. Mae gwerth economaidd o £44.9 miliwn yn dangos y gall sefydliad trydydd sector sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg lwyddo i greu effaith economaidd ynghyd â dylanwad cadarnhaol ar yr iaith.

“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn gwerthfawrogi bod angen i bob sefydliad sy’n derbyn arian cyhoeddus ddangos gwerth am arian ac rwy’n falch bod yr adroddiad hwn yn dangos yn glir ein heffaith ar Gymru.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Hoffwn ddiolch i’r Urdd am eu cyfraniad at economi Cymru ers dros ganrif. Mae eu hymdrechion yn cefnogi ein huchelgais tuag at Gymru decach, wyrddach, a mwy llewyrchus – ac mae’r Gymraeg wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.”

Wrth fynychu’r digwyddiad yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd, ychwanegodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: “Mae’r adroddiad hwn yn tystio i bwysigrwydd y Gymraeg, diwylliant a chwaraeon o ran ein heconomi. Wrth i ni gefnogi pobl ifanc i gyflawni’r dyfodol uchelgeisiol y maent yn ei haeddu yng Nghymru, mae’r Urdd yn parhau i feithrin gweithlu’r dyfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle