Cyfnod ymgysylltu meddygfa Talacharn wedi’i ymestyn

0
233
Photograph of Laugharne Castle and Boat house

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn y cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y cais gan y Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn, i ddydd Gwener Rhagfyr, 8.

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) gais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn yn Sir Gaerfyrddin yn gynharach eleni.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn trafodaethau gyda Llais, corff llais y claf Cymru, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i 8 Rhagfyr ar gyfer sylwadau cleifion a’r cyhoedd ar y cynnig i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl ymuno yn y drafodaeth.”

Gall cleifion ac aelodau o’r gymuned ehangach ddweud eu dweud drwy:

  • Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, unrhyw bryd rhwng 2pm tan 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG
  • Llenwi holiadur: mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ym Meddygfa Talacharn a Meddygfa Coach and Horses. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd drwy eu postio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD.
  • Dros y ffôn: 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer gwasanaethau eraill.
  • Mewn e-bost: ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Yn ysgrifenedig: sylwadau i’w cyfeirio at Tracey Huggins, Pennaeth Tîm Gofal Sylfaenol GMS, Canolfan Adnoddau Cymunedol Felin-foel, Felin-foel, Llanelli, SA14 8BE
  • Ar-lein: ymateb i holiadur ar dudalen Dweud Eich Dweud / Have Your Say https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/meddygfa-cangen-talacharn-dyfodol-gwasanaethau-i-gleifion-cofrestredig

Y prif resymau dros y cais i gau meddygfa gangen Talacharn yw:

  • Mae’r Practis wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
  • Er mwyn diogelu darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid Meddygon Teulu’r Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Practis Meddyg Teulu yn y dyfodol.
  • Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

Dywedodd Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Unwaith y bydd cais i gau meddygfa gangen wedi’i dderbyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn dechrau ei Broses Adolygu Practis Cangen, a reolir yn annibynnol i Feddygfa Coach and Horses.

“Mae’r broses sy’n nodi sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i dderbyn ac adolygu’r cais i gau. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chleifion a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cael eu barn, sy’n cynnwys ymgysylltu â Llais, y corff statudol yng Nghymru sy’n cynrychioli budd gorau cleifion a’r cyhoedd.

“Unwaith y bydd yr holl brosesau hyn wedi’u cwblhau, rydym yn dechrau ar gyfnod o ystyried yr adborth a gawsom yn gydwybodol. Gwneir hyn i gyd yn annibynnol i’r Practis, er ein bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac yn cynnwys eu cynrychiolydd yn ein cyfarfodydd.

“Yn olaf, mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried pan fydd y Bwrdd yn cyfarfod yn gyhoeddus i ystyried penderfyniad terfynol ar y cais.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle