Sefydliadau yn Sir Benfro yn cael eu cydnabod am helpu St John Ambulance Cymru i greu ei hyb cyntaf sy’n defnyddio ynni solar

0
207
Yn y llun mae James Cordell, Dirprwy Gomisiynydd St John Ambulance Cymru dros Ddyfed gyda Hannah Boyd, Swyddog Datgarboneiddio Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Lauren Williams, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Porthladd Aberdaugleddau.

#

 

 

Mae dau sefydliad sydd wedi helpu St John Ambulance Cymru i leihau ei ôl troed carbon drwy ariannu paneli solar ar gyfer ei bencadlys yn Sir Benfro, wedi cael eu cydnabod am eu cefnogaeth.

Yn ddiweddar, enwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau yn gyd-enillwyr Gwobr Cefnogwr y Flwyddyn St John Ambulance Cymru 2023 ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cafodd y paneli eu gosod yn adeilad yr elusen yn Hwlffordd diolch i arian gan ‘Cronfa Datblygu Cynaliadwy’ Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n cael ei hariannu gan raglen ‘Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru a ‘Chronfa Ynni Gwyrdd’ Porthladd Aberdaugleddau.

Gan nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo, ymwelodd cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad â phencadlys yr elusen yn Sir Benfro i dderbyn eu tystysgrifau.

Dywedodd Nichola Couceiro, Pennaeth Codi Arian, Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn St John Ambulance Cymru: “Mae ein gwobrau rhanbarthol yn caniatáu i’n gwirfoddolwyr ddiolch i’r rhai sydd wedi ein cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r ddau sefydliad hyn wedi gwneud cyfraniad a fydd yn cael effaith am flynyddoedd i ddod.

“Yn ogystal â helpu St John Ambulance Cymru tuag at ei nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2035, mae gosod paneli solar yn ein canolfan yn Sir Benfro yn golygu y gallwn fuddsoddi mwy o’n harian i achub bywydau a gwella iechyd a lles yng nghymunedau Cymru.”

I ddarllen Strategaeth St John Ambulance Cymru 2025, sy’n cynnwys ei gynlluniau ar gyfer niwtraliaeth carbon, ewch i www.sjacymru.org.uk/strategy-2025.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle