Busnes o Sir Gaerfyrddin yn derbyn gwobr cymorth gyrfa o fri

0
243
Carmarthenshire winner - Castell Howell

                                               

Cyhoeddodd Gyrfa Cymru wyth enillydd Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2023 mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ddydd Mercher 22 Tachwedd. Ymhlith yr enillwyr nodedig roedd cwmni o Cross Hands, Castell Howell. Enillodd Castell Howell y Wobr Cyflawniad Eithriadol Deng Mlynedd fawreddog, gan gydnabod ei gyfraniad hynod degawd o hyd at ymgysylltiad cyflogwyr ag ysgolion.

Dywedodd Ed Morgan, Rheolwr Grŵp Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Hyfforddiant yng Nghastell Howell: “Mae’n anrhydedd gwirioneddol ennill Gwobr Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. Mae cymaint o gwmnïau yn gwneud pethau gwych iawn, ac rydym yn un o lawer. Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn i ennill.”

Cafodd enillwyr pob categori eu cyhoeddi’n fyw gan westeiwr y digwyddiad, Siân Lloyd, yn adeilad y Pierhead ar ystad y Senedd yng Nghaerdydd.

I gyd-fynd â deng mlwyddiant Gyrfa Cymru fel cwmni Cymru gyfan, noddwyd y gwobrau gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. 

Mae’r gwobrau hyn, y mae disgwyl mawr amdanynt, yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod cyflogwyr sydd wedi gweithio gyda’r sefydliad i ddarparu profiadau gyrfaoedd sy’n effeithiol ac atyniadol i ddisgyblion yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.

I ddathlu deng mlwyddiant y sefydliad, eleni cafwyd gwobr ychwanegol i gydnabod cyflawniad rhagorol cyflogwyr sydd wedi cefnogi ysgolion dros y ddegawd ddiwethaf. 

Trwy weithio’n agos gydag ysgolion, mae’r sefydliadau hyn yn cefnogi pobl ifanc i wneud cysylltiadau rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol a’r byd gwaith a deall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Llongyfarchiadau mawr i holl enillwyr y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr – a hefyd i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol a darparu’r offer sydd eu hangen ar bobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol.

“Diolch i’r cyflogwyr sydd wedi bod yn rhan o’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr eleni am roi’r cyfle i bobl ifanc ryngweithio â nhw, gan ganiatáu iddynt ehangu eu gorwelion a darganfod ble mae eu diddordebau. Bydd yn helpu i sicrhau y gallant fod ar flaen y gad o ran helpu ein busnesau Cymreig i arloesi a thyfu.”

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym yn cyhoeddi enillwyr y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr eleni â balchder aruthrol.  

“Cawsom safon uchel iawn o enwebiadau, ac mae wedi bod yn gymaint o bleser tynnu sylw at yr effaith amhrisiadwy a wneir pan ddaw cyflogwyr ac ysgolion at ei gilydd mewn partneriaeth.  

“Mae’r gwobrau’n ein galluogi i ddiolch i fusnesau am ysbrydoli, cymell a grymuso disgyblion gyda gwybodaeth a phrofiadau cysylltiedig â gwaith a fydd yn helpu i’w harwain i lunio eu dyfodol.

“Ar ran fy hun a phawb yn Gyrfa Cymru, llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith hanfodol gyda nhw.”

Dyma bob un o’r wyth enillydd yn eu categorïau:

  • Gwobr Cyflawniad Eithriadol Deng Mlynedd: Castell Howell
  • Newydd-ddyfodiad Gorau: JCB
  • Cydberthynas Barhaus Orau ag Ysgol: Morganstone
  • Busnes Bach Mwyaf Cefnogol: Kidslingo / Wibli Wobli Nursery
  • Cyfraniad Personol Eithriadol: Colette Affaya – Airbus
  • Cyflogwr Mwyaf Cefnogol Profiad Gwaith: Cottage Coppicing
  • Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle: Betsi Cadwalader University Health Board
  • Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net: EDF Renewables UK

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle