Miloedd o fywydau o bosib wedi cael eu hachub diolch i ymgyrch bêl-droed

0
204
NEWTOWN, WALES - 29 APRIL 2023: Barry Town win the game 6- and celebrate winning the 2022/23 Welsh Blood Service National League Cup Final between Barry Town United AFC & Colwyn Bay FC at Latham Park, Newtown, Wales, 29 April 2023. (Pic by John Smith/FAW)

Mae tair mil o fywydau cleifion o bosib wedi cael eu hachub ar draws Cymru, diolch i gefnogwyr pêl-droed ar draws cymunedau lleol, sy’n rhoi gwaed drwy ymgyrch barhaus rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Mae’r ymgyrch ‘Gwaed, Chwys ac Iechyd Da’, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2020, yn annog clybiau, cefnogwyr a chymunedau lleol o bob rhan o’r cynghreiriau domestig i gefnogi cleifion mewn angen, trwy dynnu sylw at y pwysigrwydd o roi gwaed, platennau a mêr esgyrn.

Yn ddiweddar, ymunodd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r rhoddwr gwaed, Noel Mooney, â phedwar cydweithiwr i roi gwaed a dathlu trydydd pen-blwydd yr ymgyrch: “Ym mhob cymuned ar draws Cymru, mae yna bobl y mae eu bywydau wedi cael eu hachub neu eu gwella diolch i roddion, ac rydym yn parhau i alw ar gefnogwyr pêl-droed i gymryd rhan a dod yn hyrwyddwyr achub bywydau.

“Gwasanaeth Gwaed Cymru yw partner cymunedol cyntaf Cynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Adran Genero, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi llwyddo i greu a chadw’r bartneriaeth bwysig hon. Mae pêl-droed wir yn achub bywydau!”

Emi during chemotherapy treatment

Mae gohebydd pêl-droed S4C, Nicky John, yn deall y manteision o roi gwaed ar ôl derbyn trallwysiad gwaed sy’n achub bywydau yn dilyn genedigaeth ei mab Sam. Cafodd y fam i ddau o Harlech brofiad pellach â thrallwysiadau gwaed ar ôl i’w merch Emi gael diagnosis o ganser.

Cafodd Emi ei diagnosio yn ddim ond 13 mis oed gyda math o ganser yr arennau ym mis Mawrth 2022. Derbyniodd 12 mis o gemotherapi a chafodd lawdriniaeth hir. Yn ffodus, diolch i’r driniaeth a dderbyniodd, aeth Emi ymlaen i wella’n llwyr.

Dywedodd Nicky: “Dydych chi byth yn meddwl mai chi neu eich plentyn fydd e, ond yr hyn mae profiad ein teulu wedi ei ddysgu i mi yw pa mor hanfodol yw rhoi gwaed os ydych chi’n gallu gwneud hynny. Mae’n anodd rhoi mewn geiriau cymaint o wahaniaeth rydych chi’n ei wneud.

Family Picture

“Ar ôl derbyn trallwysiad fy hun, yn anffodus, dwi ddim yn cael rhoi gwaed bellach. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio, trwy rannu ein stori, os gallaf argyhoeddi dim ond un person arall i fynd i roi gwaed, y byddaf wedi helpu mewn ffordd fach. Mae’n gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, ac ni allwn fod yn fwy diolchgar. Mae’r gefnogaeth rydym wedi ei chael gan y gymuned leol a chefnogwyr pêl-droed ar draws Cymru yn ystod y 18 mis diwethaf yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio.”

Wrth siarad am driniaeth Emi a llwyddiant yr ymgyrch, dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae stori Emma wir yn dangos pa mor bwysig y gall rhoi gwaed a phlatennau fod. Dyna pam mae cael cefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y Cynghreiriau, a’u cefnogwyr wedi bod yn hanfodol i’n helpu i dynnu sylw at yr angen am fwy o roddwyr. Mae’r ymgyrch wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau ac yn parhau i dyfu, gyda bron i 70 o glybiau yn cymryd rhan erbyn hyn.

“Ein her yw recriwtio 11,000 o roddwyr newydd bob blwyddyn, ac rydym yn gobeithio, drwy barhau i hyrwyddo achos mor dda, y bydd yr ymgyrch yn parhau i helpu cleifion mewn angen, fel Emi, am flynyddoedd i ddod.”

Roedd triniaeth Emi yn llwyddiannus, ond i rai cleifion canser y gwaed, eu hunig obaith o wella yw derbyn trawsblaniad mêr esgyrn.

Aeth Alan ymlaen i ddweud: “Bob blwyddyn, mae’r Gwasanaeth yn anelu at recriwtio 4,000 o bobl ifanc 17 i 30 oed i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, a helpu i wella canlyniadau i gleifion canser y gwaed. Mae dwy ffordd o ymuno – drwy ofyn wrth roi gwaed neu drwy ofyn am becyn swab drwy ein gwefan. Mae’r pecynnau yn cael eu danfon i’ch drws, ac yn gwneud ymuno yn haws nag erioed o’r blaen.”

Ewch i www.wbs.wales/football heddiw i helpu rhywun mewn angen fel Emi, a darganfod mwy am yr ymgyrch ‘Gwaed, Chwys ac Iechyd Da.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle