Mae’r ysbrydoliaeth y tu ôl i brosiect newid bwyd sy’n helpu pobl syn dioddef arwahanrwydd cymdeithasol i gael gwaith wedi’i enwebu ar gyfer prif wobr

0
229
Confidently You

Mae Mel Davis, Mentor Cyflogadwyedd gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy yn y rownd derfynol ar gyfer categori Rheoli Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth 2024 Grŵp Llandrillo Menai.

Heb unrhyw gymwysterau academaidd blaenorol i’w henw, roedd y fam i bedwar o Hen Golwyn wedi ymuno â’r Canolbwynt chwe mlynedd yn ôl ac anogwyd yn ôl i ddysgu ar gyfer DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) ac i helpu i osod y sylfeini ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol.

Aeth Mel ymlaen i ennill nifer o gymwysterau, gan gynnwys Diploma Lefelau 3, 5 a 7 mewn Cwnsela, Hyfforddi a Mentora.

Hefyd, llwyddodd i dderbyn Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Prosiect a gwnaeth hynny ar ôl derbyn diagnosis dyslecsia, gweithio yn ei swydd bob dydd a chreu’r cynllun cyn-cyflogadwyedd Hyder yn dy hun hynod llwyddiannus, oedd wedi mwy na dyblu ei ymrwymiad cychwynnol i helpu 30 o bobl ar draws y sir.

Mae hi “wrth ei bodd” ei bod wedi’i henwebu ar gyfer y teitl ond mae’n mynnu y bydd y cyflawniad yn cael ei rannu gyda’r sawl wnaeth gymryd rhan yn y prosiect.

Mel Davis

“Roedd yn sioc ac yn syrpreis clywed fy mod wedi cael fy newis, felly wrth gwrs rwyf wrth fy modd o ystyried nad oedd gennyf unrhyw gymwysterau traddodiadol cyn ymuno â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy,” meddai.

“Roedd hynny wedi helpu i ddatblygu fy hyder fy hun ac arwain atom yn lansio Hyder yn dy hun, sydd wedi cefnogi cymaint o bobl i ymgeisio a dod o hyd i swydd.

“I’r sawl oedd yn profi arwahanrwydd cymdeithasol, yn arbennig yn dilyn y pandemig, roedd yn gyfle iddyn nhw gwrdd â phobl newydd, dysgu a datblygu sgiliau cymdeithasol a gweld pa gyfleoedd oedd ar gael iddyn nhw.

“Rydym mor falch gyda’r canlyniadau, wrth dargedu 30 o bobl roedd yna mewn gwirionedd mwy na 60 o bobl oedd wedi cymryd rhan yn y prosiect, nifer ohonynt nawr yn gweithio ac yn mwynhau bywyd, felly mae wedi bod yn hynod o arbennig bod yn rhan o hynny.”

Wedi’i gefnogi gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, roedd Hyder yn dy hun wedi dod â bobl ynghyd ar gyfer mwy na 113 o sesiynau gweithgaredd grŵp dan do ac awyr agored, yn amrywio o sgiliau byw yn y gwyllt, padlfyrddio, e-feicio, ogofau, celf a chrefft a llawer mwy.

Roedd y canlyniadau i’r pwynt hwn wedi gweld 25 ohonynt yn ennill cymhwyster a 13 yn dod o hyd i waith tra’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles holl gyfranogwyr.

Confidently You

“Mae’r ffaith fod cymaint ohonynt nawr mewn swyddi a swyddi maent yn eu mwynhau, yn anhygoel, ac yn rhan fawr o’r llwyddiant,” meddai Mel.

“Ond i rai, roedd mynd allan o’r tŷ ar ôl bod yn anweithgar yn economaidd ac yn gymdeithasol am gymaint o amser yn ganlyniad gwych ac mor ddewr – gobeithio mai dyma’r cam cyntaf ar eu ffordd i ddod o hyd i waith.

“Mae’r ffaith fod hyn i gyd wedi’i gydnabod gydag enwebiad gan Grŵp Llandrillo Menai yn galonogol iawn, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am y gefnogaeth a roddwyd i mi drwy gydol fy siwrnai ddysgu.”

Confidently You

Meddai Libby Duo, Rheolwr Canolbwynt Cyflogaeth Conwy: “Rydym mor falch o Mel, mae hi’n fentor cwbl ysbrydoledig ac yn haeddiannol iawn o’r enwebiad hwn.

“Mae hi wedi ymrwymo i helpu eraill ac mae’n greadigol yn datblygu rhaglenni hyfforddiant fel hyn, sydd wedi cael effaith fawr ar draws sir Conwy – rydym yn dymuno pob lwc iddi yn y gwobrau.”

I bleidleisio ar gyfer Mel, ewch i www.awards.gllm.ac.uk/2024/management.

Ewch i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy – Mwy o wybodaeth- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gael rhagor o wybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy a gwybodaeth am academïau hyfforddiant.

Neu, ffoniwch 01492 575578, e-bost ceh@conwy.gov.uk neu gallwch hunan-gyfeirio ar y wefan https://bit.ly/Conwy-form


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle