Dadorchuddio Dos o Gelf yn Nodi Trydydd Pen-blwydd Brechlyn COVID-19 Cyntaf BIP Hywel Dda

0
239
Picture L-R: Kathryn Lambert, Arts In Health Co-ordinator (HDUHB), Health Board Chaplian Rev Euryl Howells, Olwen Morgan, Hospital Head of Nursing, Colin O'Sullivan, Hospital Service Manager, Nathan Wyburn, Artist.

Heddiw (dydd Gwener, 8 Rhagfyr 2023) cynhaliwyd dadorchuddiad swyddogol o Dos o Gelf, gwaith celf hynod gan yr artist portreadau Cymreig adnabyddus Nathan Wyburn yn Ysbyty Tywysog Philip, i gyd-fynd â thrydydd pen-blwydd y brechlyn COVID-19 cyntaf a roddwyd gan Bwrdd Iechyd Prifsygol Hywel Dda (BIP).

Mae Dos o Gelf yn anrhydeddu staff gofal iechyd a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro drwy gydol y pandemig COVID-19 ac yn dathlu llwyddiant y rhaglen frechu.

Wedi’i gwneud o filoedd o gaeadau plastig a gasglwyd o ffiolau brechu ar draws canolfannau brechu torfol y bwrdd iechyd, mae pob caead yn symbol o gyflenwi 6, 8, 10, neu 20 brechlyn.

Mae’r darn teimladwy yn portreadu dau aelod o staff y GIG yn gwenu heb Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), gan gyfleu neges o obaith, rhyddid, cymuned, golau, a bywyd a ddaeth â’r Rhaglen Brechu Torfol i bobl ledled Hywel Dda.

Cafodd y dadorchuddiad heddiw ei nodi trwy gân, a ddarparwyd gan Bennaeth Nyrsio Ysbyty Glangwili, Olwen Morgan a ganodd The Rose.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n wych gallu dadorchuddio’r gwaith celf hwn heddiw fel atgof diriaethol o ymdrechion anhygoel yr holl staff gofal iechyd a gwirfoddolwyr a fu’n ymwneud â’r ymateb pandemig a’r rhaglen frechu torfol.

“Dair blynedd yn Ă´l heddiw, yn Ysbyty Glangwili, rhoddwyd y brechlynnau COVID-19 cyntaf o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i staff sy’n delio â chleifion, gan eu gwneud ymhlith y cyntaf yn y byd i gael brechiad COVID-19.

“Roedd dyfodiad y brechlyn yn ddigwyddiad a newidiodd y byd a roddodd obaith i ni ar ddiwedd 2020 ac mae’n parhau i fod yr un mor bwysig heddiw, gan ddarparu amddiffyniad i aelodau mwyaf agored i niwed ein cymuned.”

Dewiswyd Nathan Wyburn, artist portreadau Cymreig sy’n enwog am ei ddefnydd arloesol o ddeunyddiau anghonfensiynol, ar gyfer y prosiect hwn drwy bleidlais ar-lein gan staff a gwirfoddolwyr Hywel Dda.

Dywedodd yr artist Nathan Wyburn: “Mae’n anrhydedd cael fy newis gan staff Hywel Dda i greu’r gwaith celf hwn ac rwy’n gobeithio bod pobl sy’n gweithio yn y bwrdd iechyd, y rhai a weithiodd mor galed yn ystod y pandemig yn gweld eu hunain yn y portreadau hyn.

“Mae’r cyfan yn ymwneud â’r bobl ac rwy’n falch iawn o’r gwaith hwn. Ni allaf aros i hwn deithio ar draws y bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf.”

Roedd gwireddu Dos o Gelf yn bosibl trwy gyllid a ddarparwyd gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli cyn teithio i safleoedd eraill y bwrdd iechyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro drwy gydol 2024.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle