Lefelau Pryderus o Ddyled Bersonol yng Nghymru yn Effeithio ar Ein Hiechyd Meddwl

0
141

Yn ôl arolwg y Sefydliad Iechyd Meddwl:

  • Mae mwy na thri oedolyn o bob deg yng Nghymru yn teimlo’n orbryderus (32%) neu dan straen (32%) am eu sefyllfa ariannol eu hunain
  • Mae mwy na thri o bob deg (31%) yn poeni am dalu eu biliau cartref.
  • Mae dros draean o oedolion Cymru (35%) yn poeni am dalu eu biliau gwresogi yn ystod y misoedd nesaf
  • Mae mwy na thraean (36%) o oedolion yng Nghymru wedi ysgwyddo dyledion heb eu gwarantu yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd y cynnydd mewn costau byw, gyda mwy nag un o bob 10 (11%) yn cronni dyledion o fwy na £3000.

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi datgelu’r nifer pryderus o bobl sy’n ysgwyddo dyled bersonol i dalu costau byw hanfodol ac mae’n rhybuddio am effeithiau posibl costau cynyddol ar iechyd meddwl pobl ledled y wlad.

Cynhaliodd yr elusen arolwg o 1000 o bobl ym mis Tachwedd a dangosodd fod effeithiau costau byw yn cael eu teimlo’n eang, gyda thri o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn teimlo’n orbryderus (32%) neu’n bryderus (31%) am eu sefyllfa ariannol.

Mae dros 1 o bob 3 (36%) o oedolion yng Nghymru wedi ysgwyddo dyled heb ei gwarantu yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Roedd mwy nag un o bob deg (10%) wedi cronni dyledion o fwy na £3000.  Ar ben hynny, roedd dros hanner yr oedolion a oedd wedi ysgwyddo dyledion heb eu gwarantu (59%) yn poeni am eu gallu i dalu hyn yn ôl.

Mae’r elusen yn dweud nad yw hyn yn gynaliadwy ac mae’n poeni am yr effaith y gallai hyn ei chael ar iechyd meddwl pobl yng Nghymru. Mae’n dweud bod byw mewn tlodi a/neu ddyled, yn enwedig dyled heb ei gwarantu, yn gallu arwain at gynnydd mewn problemau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder.

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn galw am weithredu ar frys gan y llywodraeth i ddiogelu iechyd meddwl pobl yng Nghymru rhag bygythiad straen ariannol a thlodi.

Dywedodd Jemma Wray, Pennaeth Cymru Y Sefydliad Iechyd Meddwl: 

“Rydyn ni’n gwybod bod tlodi a straen ariannol ymysg y prif bethau sy’n achosi problemau iechyd meddwl. Mae ein harolwg yn dangos yn glir bod iechyd meddwl pobl yn dioddef oherwydd eu sefyllfa ariannol; mae angen cymorth brys gan y llywodraeth i helpu pobl sydd mewn dyled a’r rheini sy’n poeni am allu fforddio hanfodion fel gwresogi eu cartref y gaeaf hwn.

“Rydyn ni’n byw yn un o wledydd cyfoethocaf y byd ond mae dros draean o oedolion Cymru (36%) yn poeni am gael digon o arian ar gyfer gwresogi dros y misoedd nesaf.

“Yn ogystal â chymorth tymor byr, mae angen atebion tymor hwy arnom i sicrhau bod gan bobl incwm a fydd o leiaf yn talu am yr hanfodion.  Mae llawer yn dal i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae arnom angen buddsoddiad gan y llywodraeth sy’n diogelu iechyd meddwl pobl sy’n byw yma.

“Y cam gweithredu pwysicaf gan lywodraethau fydd cynlluniau cymorth ariannol sy’n atal pobl rhag profi tlodi a straen ariannol. Bydd gwasanaethau cymorth dyled a chyngor ariannol hygyrch, sydd â digon o adnoddau, yn allweddol i ddiogelu iechyd meddwl pobl yng Nghymru.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw grwpiau a mentrau sy’n darparu cyfleoedd i bobl yn y gymuned. Rydym yn gofyn am gyllid ychwanegol, cyflym ar gyfer mentrau sy’n cefnogi pobl yn eu cymunedau lleol ledled Cymru, gan gynnwys cyfleoedd cymdeithasol fel boreau te a choffi i bobl hŷn, y celfyddydau ar gyfer iechyd meddwl, neu glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol. Gall y mentrau hyn ddiogelu iechyd meddwl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle