Chwe set deledu ar gyfer Glangwili a brynwyd diolch i roddion elusennol

0
266
Pictured above (L-R): Alys Thomas, Emily Price, Cath Jeremiah and Julie George.

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu chwe set deledu ar gyfer Ward Preseli yn Ysbyty Glangwili.

 Mae Ward Preseli yn ward 15 gwely ar gyfer cleifion llawfeddygol.

 Dywedodd Vicky Thomas, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu chwe set deledu newydd ar gyfer Ward Preseli.

 “Does dim setiau teledu ar y ward ar hyn o bryd. Gall cleifion deimlo’n unig iawn pan fyddant i ffwrdd oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau am gyfnodau estynedig. Bydd y setiau teledu newydd yn helpu i basio’r amser ac yn tynnu sylw oddi wrth y problemau y gallent fod yn eu hwynebu.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle