Bydd Hwb Menter DRAWSNEWIDIOL sy’n perfformio’n well na’i gyfoedion “o gryn faint” yn mynd i mewn i’w chweched flwyddyn gyda llu o wasanaethau newydd ar gyfer busnesau newydd ac entrepreneuriaid.

0
312
MMPorthmadog

Mae Hwb Menter (Enterprise Hub) arloesol Menter Môn sydd wedi’i leoli gyda phartneriaid prosiect M-SParc, Gaerwen, ac yn Hwb Arloesi, Porthmadog, wedi datgelu cyfres o fanteision a chymhellion yn ogystal i’w gofodau cydweithio a’i raglen boblogaidd cychwyn busnes, Miwtini.

Gall busnesau yng Ngwynedd ac Ynys Môn wneud cais am ‘becyn cymorthgwerth £2,500 sy’n cynnwys mynediad at arweiniad a gwybodaeth am ddim, cefnogaeth ariannol a mwy.

Datgelodd gwerthusiad diweddar gan Lywodraeth Cymru fod tîm Hwb Menter Gogledd Orllewin Cymru, a reolir gan Sara Lois Roberts, yn “perfformio’n well o gryn faint” ac “wedi gallu cyrraedd cynulleidfa newydd a gwahanol”.

Mae Sara ynfalch ac yn gyffrous” y gallant symud ymlaen a chynnig hyd yn oed mwy i bobl ar draws y rhanbarth.

Sara a Sian Hwb Menter

“Mae gennym dîm gwych o fewn yr Hwb Menter sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu pobl dros y pum mlynedd diwethaf, felly roedd cael cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn galonogol,” meddai.

“Bydd ein gwasanaethau’n parhau, gan ganolbwyntio ar fusnesau newydd ac entrepreneuriaid yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ac mae’r pecyn cymorth newydd yn dangos ein bod hyd yn oed yn fwy penderfynol o roi’r help sydd ei angen ar y rhai sydd am ddechrau eu busnes eu hunain i lwyddo.”

Mae’r Hwb Menter wedi gwneud hynny ar gyfer mwy na 180 o fentrau newydd ers 2018 – doedd dim arafu ar gyfer pandemig y Coronafeirws – gan ddangos pa mor ganolog oedd yr angen am blatfform wyneb yn wyneb, hygyrch sy’n cyd-fynd â’r “ecosystem fusnes leol”.

Roedd agor hwb ym Mhorthmadog (Hwb Arloesi) yn atgyfnerthu’r angen am wasanaeth yn yr ardal honno, ac mae wedi profi’n boblogaidd gyda gweithwyr unigol yn arbennig gan gynnig mannau gweithio o bell, desgiau poeth, digwyddiadau a rhwydweithio. Mae’r lleoliad hwn yn ymuno â rhwydwaith o hybiau eraill, gan gynnwys lleoliadau #ArYLon MSParc ym Mhwllheli a Bangor.

MM Porthmadog

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParcMae’r Hwb Menter wedi bod yn enghraifft wych o’r modd y mae M-SParc a Menter Môn yn cydweithio ar brosiectau sy’n arwain at ganlyniadau cadarnhaol ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau yng Ngogledd Cymru, ac yn gweddu’n berffaith i’n gwaith ni yn cefnogi twf busnesau yn yr ardal, creu swyddi, a gwneud Gogledd Cymru yn lle deniadol i weithio.”

Ar ôl derbyn £568,184 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Gwynedd / Cyngor Sir Ynys Môn a £150,000 gan Nuclear Restoration Services Ltd ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), mae Sara wrth ei bodd y gall yr Hwb Menter barhau i roi hwb masnachol i’r rhai sydd ei angen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Materion Allanol yr NRS, Bill Hamilton:

Rydym ni yn NRS yn hapus i gefnogi cynlluniau fel yr Hwb Menter trwy Menter Môn, sydd â’r nod o gefnogi cymunedau lleol yn ogystal â dod â buddion economaidd-gymdeithasol. Mae Menter Môn wedi chwarae rhan ganolog wrth alluogi NRS i gefnogi twf yma yng Ngogledd Cymru ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn parhau i gyflawni eu prosiectau.”

Ychwanegodd Sara:

Bydd ein gwasanaethau craidd yn parhau ac maent wedi mynd o nerth i nerth,” meddai.

“Ond bydd y pecyn cymorth newydd yn newid y gêm ar gyfer busnesau newydd yn y ddwy sir, yn enwedig y cymorth ariannol o £2,500 y gellir ei ddefnyddio ar gyfer buddion hirdymor pwysig, boed hynny’n aelodaeth, meddalwedd, tanysgrifiadau i becynnau cyfrifyddu, neu ddefnyddio gweithwyr proffesiynol fel cyfrifwyr, dylunwyr graffig, neu ddatblygwyr gwe.

Fodd bynnag, mae’n llawer mwy na chymhelliant ariannol yn unig, bydd y cynllun cofleidiol cyffredinol yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen ar fusnesau newydd ac unrhyw un sydd am lansio busnes, gan gynnwys awgrymiadau a chyngor gan ein cronfa o arbenigwyr mewn ystod eang o feysydd.

M M Porthmadog

“Rydym eisoes wedi cael ymateb cadarnhaol iawn a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â’r Hwb Menter – am fwy o wybodaeth ar sut y gallwn eich helpu cysylltwch â ni.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall yr Hwb Menter eich helpu i gychwyn busnes, cysylltwch drwy e-bost post@hwbmenter.cymru neu ffoniwch 01248 858 070.

Fel arall, ewch i www.hwbmenter.cymru neu dilynwch @hwbmenter ar y cyfryngau cymdeithasol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle