MAE FFATRI sgiliau digidol arloesol wedi lansio cyfres o raglenni byrion i baratoi cwmnïau ym maes gweithgynhyrchu a pheirianneg ar gyfer Diwydiant 4.0

0
700
Medru Paul Newman

Mae Medru – cydweithrediad rhwng Coleg Cambria, Prifysgol Bangor, a’r Brifysgol Agored yng Nghymru – yn cefnogi busnesau i chwilio am ymgeiswyr profiadol a thalentog iawn i lenwi bylchau cyflogaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Wedi’i seilio ar naw piler Diwydiant 4.0 – Robotiaid Ymreolaethol, Rhyngrwyd Pethau (IoT), Efelychiad, Realiti Estynedig, Seiberddiogelwch, Cyfannu Systemau, Cyfrifiadura Cwmwl, Gweithgynhyrchu Ychwanegion, a Data Mawr – mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae’r cyrsiau rhan-amser yn cychwyn y mis hwn (Rhagfyr) a byddant i gyd wedi’u lleoli ar safle Glannau Dyfrdwy Cambria; maent yn cynnwys Hanfodion Systemau YmreolaetholHanfodion Robotiaid Cydweithredol (Cobotiaid)Cyflwyniad i 5G, a Hanfodion Technoleg Wisgadwy.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datrysiadau Busnes Cambria, Nigel Holloway: “Mae’r rhaglenni hyn yn darparu dysgwyr gyda sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr y gellir eu cymhwyso ar draws diwydiannau a sectorau amrywiol.

Medru Paul Newman

“Gyda dealltwriaeth o feysydd fel esbonio Deallusrwydd Artiffisial, systemau ymreolaethol, dadansoddi data, seiberddiogelwch, a rhagor, gall gweithwyr proffesiynol gyfrannu at hyrwyddo mentrau Diwydiant 4.0 yn eu sefydliadau.

“Er nad yw’r sesiynau ond yn para am ychydig oriau, maen nhw’n sylfaen gadarn i unigolion sy’n ceisio gwella eu gyrfaoedd a chyfrannu at faes cyffrous arloesi sy’n cael ei yrru gan dechnoleg.”

Ychwanegodd: “Yn y pen draw, ein nod yw – gan ddefnyddio naw piler Diwydiant 4.0 – cynnig hyfforddiant perthnasol a phwrpasol ar draws gogledd ddwyrain Cymru i greu sianel o dalent am flynyddoedd i ddod.”

Medru Paul Newman

Mae Diwydiant 4.0 – sy’n cael ei adnabod hefyd fel y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol – yn cyfeirio at ddatblygiadau mewn digideiddio yn ogystal â’r angen i uwchsgilio gweithluoedd presennol a pharatoi cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer datblygiadau mewn technoleg, gan sicrhau eu bod yn gallu cwrdd â heriau technolegol wrth i yrfaoedd yn y sectorau hyn esblygu a datblygu.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un o raglenni Medru, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk/medru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle