Achubwyr bywyd ifanc Cymru yn mynychu seremoni arbennig St John Ambulance gyda’r Dywysoges Frenhinol

0
180

Mynychodd wyth o bobl ifanc o elusen cymorth cyntaf Cymru, St John Ambulance Cymru, dderbyniad arbennig gyda’i Huchelder y Dywysoges Frenhinol fis diwethaf, i ddathlu eu hymrwymiad i gadw eu cymunedau’n ddiogel. Roedd yn anrhydedd i aelodau o raglenni ‘Badgers’ a Chadetiaid St John Ambulance Cymru fynychu’r digwyddiad yn Eglwys Priordy Sant Ioan yn Llundain.

Mae Derbyniad Cyflawnwyr Ifanc, a drefnir gan St John Ambulance yn Lloegr, yn galluogi gwirfoddolwyr ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr i gwrdd a rhannu eu profiadau. Cyfarfu’r bobl ifanc â’r Dywysoges Frenhinol yn y digwyddiad, a longyfarchodd y dwsinau o Gadetiaid a ‘Badgers’ ysbrydoledig am eu gwaith caled. Y Dywysoges Frenhinol yw Prif Gomander (Ieuenctid) St John Ambulance.

Roedd y bobl ifanc a oedd yn cynrychioli St John Ambulance Cymru yn y digwyddiad wedi’u henwi’n ‘Badgers’ a Chadetiaid y Flwyddyn 2023 ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru, ar ôl dangos ymrwymiad arbennig i’r elusen dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd Joseph Humprhreys a Mali Stevenson o Bontypridd, Cariad Carpenter a Courtney Smith o Griffithstown, Daniel Summerfield o Betws Cedewain, Rhys Clissold o Radyr, Izabelle Humphries o Lannau Dyfrdwy a Harri Argent o Dalgarth yn bresennol yn y derbyniad ar ran St John Ambulance Cymru, a ac fe wnaethant gynrichioli’r elusen yn wych.

Dywedodd Mali Stevenson, Cadet Cenedlaethol y Flwyddyn St John Ambulance Cymru: “Roedd mor ysbrydoledig siarad â chymaint o Gadetiaid anhygoel eraill a chlywed am eu cyflawniadau.

“Roeddem hefyd wrth ein bodd yn cyfarfod Ei Uchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, a wrandawodd ar ein holl straeon.

“Roedd y diwrnod llawn hwyl ac roedd yr amgylchedd yn gefnogol ac yn galonogol iawn. Roedd y derbyniad yn arbennig iawn ac rwy’n siŵr y byddai’r holl ‘Badgers’ a Chadetiaid a fynychodd yn cytuno ei bod yn fraint cael gwahoddiad.”

Roedd Kimberley Burns, Swyddog Datblygu Pobl Ifanc yn St John Ambulance Cymru yn bresennol yn y derbyniad. Meddai: “Rydym mor falch o bobl ifanc St John Ambulance Cymru a fynychodd Dderbynfa Cyflawnwyr Ifanc. Cynrychiolwyd ein helusen yn wych.”

“Mae ein rhaglenni plant a phobl ifanc i gyd yn ymwneud â dysgu sgiliau bywyd amhrisiadwy, gan gynnwys cymorth cyntaf achub bywyd, wrth wneud atgofion a chyfeillgarwch gwych.

“Os ydych chi’n berson ifanc sydd â diddordeb mewn gofal iechyd neu’n chwilio am ffordd hwyliog o gwrdd â phobl newydd, rydym yn eich annog i estyn allan a chymryd rhan!”

I gael gwybod mwy am raglenni St John Ambulance Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, ewch i www.sjacymru.org.uk/young-people.

Mae’r elusen hefyd yn recriwtio arweinwyr newydd ar gyfer eu grwpiau ‘Badgers’ a Chadetiaid. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda phobl ifanc yn eich ardal, yna ewch i http://www.sjacymru.org.uk/volunteer i gofrestru heddiw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle