Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enw enillydd y gystadleuaeth cerdyn Nadolig

0
197
FM-Christmas-Xmas-Card-2023

Welsh Government

Heddiw, mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Kai Lloyd sydd wedi ennill cystadleuaeth flynyddol cerdyn Nadolig y Prif Weinidog.

Mae Kai, sy’n ddeg oed, yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Coch ym Mhontypridd.

Roedd y gystadleuaeth eleni yn agored i blant oed cynradd sy’n mynd i ysgol arbennig yng Nghymru. ‘Dymuniadau’r Nadolig’ oedd y thema ar gyfer y cerdyn Nadolig eleni.

Cafodd y cynllun buddugol ei ddewis gan y Prif Weinidog a bydd yn ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol ar gyfer 2023. Mae’r Prif Weinidog yn anfon cerdyn at filoedd o bobl ym mhob cwr o’r byd bob Nadolig, gan gynnwys at arweinwyr byd.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Un o’r uchafbwyntiau imi bob mis Rhagfyr yw cael y cyfle i ddewis fy ngherdyn Nadolig. Mae bob amser yn anodd dewis un enillydd, ond dyluniad Kai wnaeth ddal fy llygad i eleni.

“Roedd cerdyn Kai yn wych ac yn dangos llawer o bobl hapus wrth goeden Nadolig liwgar iawn. Bydd yn rhoi gwên ar wyneb pob un fydd yn ei agor, rydw i’n siŵr.”

“Hoffwn i ddiolch i bob plentyn a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ichi i gyd!”

Eglurodd Kai yr ystyr y tu ôl i’w ddyluniad. Dywedodd “Rwy wedi peintio teulu o amgylch coeden Nadolig gyda seren, gan mai treulio amser gyda fy nheulu yw fy hoff beth am Nadolig. Rwy’n falch iawn o ennill cystadleuaeth y Prif Weinidog ac i fy ngherdyn gael ei anfon o amgylch y Byd.”

Dywedodd Rachael Rogers, athrawes ddosbarth Kai:

“Rwy mor falch o ddyluniad cerdyn Nadolig Kai. Fe ymdrechodd yn galed iawn a dangosodd sgiliau creadigol wrth feddwl beth oedd y Nadolig yn ei olygu iddo. Llun o deulu adeg Nadolig oedd yn bwysig i Kai.”

Dywedodd Simon Wilson, Pennaeth Ysgol Tŷ Coch:

“Mae pawb yn Ysgol Ty Coch yn hynod o falch o Kai am ei gais arbennig i Gystadleuaeth Cerdyn Nadolig y Prif Weinidog. Mae holl ddisgyblion yr ysgol yn gweithio’n galed i fod yn ddysgwyr creadigol ac uchelgeisiol ac mae gwaith celf Kai yn enghraifft o ragoriaeth Ysgol Tŷ Coch. Da iawn i Kai oddi wrth bob un ohonom yn Ysgol Ty Coch a chymuned yr ysgol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle