Gwaith archwilio yn dechrau o dan y contract mawr cyntaf ar gyfer fferm wynt Awel y Môr

0
334

•              Bydd archwiliadau o wely’r môr yn cael eu cynnal dros y chwe mis nesaf

•              Bydd y gwaith yn cynnwys cymryd samplau daearegol o wely’r môr gan ddefnyddio tyllau turio 

•              Y contract sydd wedi’i ddyfarnu i Fugro yw’r dyfarniad mawr cyntaf ers cael cydsyniad datblygu

Mae gwaith i archwilio daeareg arfordir gogledd Cymru ar fin dechrau, fel rhan o’r contract mawr cyntaf a ddyfarnwyd ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr ar ôl cael cydsyniad datblygu.

Mae cwch codi Seafox 7 ar fin gadael Caergybi a bydd yn treulio hyd at chwe mis oddi ar arfordir gogledd Cymru wrth i gontractwyr Fugro gymryd samplau tyllau turio o wely’r môr.

 Bydd y samplau hyn yn helpu tîm Awel y Môr i fapio’r ddaeareg waelodol er mwyn mireinio dulliau gosod tyrbinau a phennu lleoliadau’n fanwl.

 Mae hyn yn dilyn dyfarnu trwydded forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y gwaith yn gynharach eleni.

Dywedodd Tamsyn Rowe, Arweinydd Prosiect Awel y Môr: “Gyda’r gorchymyn cydsyniad datblygu ar waith, mae prosiect Awel y Môr nawr yn symud ymlaen i gam newydd. Dyma’r contract mawr cyntaf i gael ei ddyfarnu wrth i ni ddechrau ar y gwaith angenrheidiol er mwyn gallu adeiladu.

“Mae gwely’r môr ym Mae Lerpwl yn adlewyrchu’r dirwedd ar y tir yng Nghymru, gan fod llawer ohono wedi’i ffurfio yn sgil yr oes iâ ddiwethaf, gyda chreigiau caletach a meddalach mewn haenau gwahanol ar draws ardal yr aráe, ac mae’n gyfle diddorol i ddysgu mwy am yr hyn sydd o’n cwmpas. 

“Mae hyn hefyd yn cyflwyno her unigryw o ran arloesi ym maes peirianneg; un y mae RWE wedi’i hwynebu’n barhaus ers i ni ddatblygu’r fferm wynt ar y môr gyntaf ar raddfa fasnachol yn y DU – yng Ngogledd Hoyle, yma yng ngogledd Cymru.”

Mae’r Seafox 7 yn gwch codi â phedair coes sy’n gallu codi ei hun ac sy’n dal 113 o bobl. Caiff ei defnyddio ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw a gwahanol wasanaethau, ac mae’n gallu gweithredu drwy gydol y flwyddyn mewn dyfnderoedd o hyd at 40m.

 Dywedodd Matthew Chappell, Cyfarwyddwr Llinell Gwasanaeth Rhanbarthol Ger y Glannau Fugro ar gyfer Ewrop ac Affrica: “Mae Fugro yn falch o fod yn rhan o’r garreg filltir bwysig hon ar gyfer prosiect Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr. Bydd ein harbenigedd mewn archwilio safleoedd gwely’r môr ger y glannau a samplu daearegol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu tîm Awel y Môr i fireinio eu dulliau gosod tyrbinau ac i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am leoliadau’r safle.

 “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag RWE a thîm Awel y Môr yn y cam cychwynnol hwn, gan osod y llwyfan ar gyfer trawsnewid ynni glân a fydd o fudd i gymunedau lleol a’r amgylchedd.”

OK

Mae gan RWE dros ddau ddegawd o brofiad ym maes ynni gwynt ar y môr yn y DU, ar ôl datblygu ac adeiladu’r fferm wynt ar y môr gyntaf ar raddfa fasnachol yn y wlad yn 2003 yng Ngogledd Hoyle.

 Mae gan RWE biblinell gref yn y DU i’r dyfodol ac mae’n ymwneud â phedwar o saith prosiect ymestyn ynni gwynt ar y môr y DU, yn ogystal â dau brosiect Rownd 4 Dogger Bank South.

 Mae RWE hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir yng ngogledd Cymru – yn y Gaerwen ac Alwen.  Mae gan y cwmni uchelgais hefyd i ddatblygu gwynt arnofiol yn ardal y Môr Celtaidd.

 Mae RWE yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30 y cant) a Siemens Financial Services (10 y cant). 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle