Mae gwneud y defnydd gorau o borthiant yn y dogn i famogiaid cyfeb yn caniatáu defnyddio cyn lleied â phosibl o atchwanegiadau

0
193
Capsiwn: Jack Foulkes, Marchynys a'r arbenigwr defaid annibynnol, Kate Phillips.

Gall porthiant o ansawdd da sy’n cael ei fwydo mewn dogn cymysg cyflawn (TMR) leihau’n sylweddol yr angen i fwydo dwysfwydydd i famogiaid cyfeb.

Mae’r egwyddor o optimeiddio’r cyfraniad o borthiant i ganiatáu cyn lleied â phosibl o atchwanegiadau yn un y mae’r tad a’r mab John a Jack Foulkes yn anelu ato yn Marchynys, daliad 700 erw ar Ynys Môn lle maent yn wyna 2,700 o famogiaid o ddiwedd mis Ionawr.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio ym Marchynys yn ddiweddar, cynghorodd yr arbenigwr defaid annibynnol Kate Phillips, sydd wedi bod yn llunio dogn mamogiaid cyfeb y fferm ers blynyddoedd lawer, y dylai ffermwyr gael dadansoddiad o’u porthiant, oherwydd heb wybod ei gynnwys maethol, nid yw’n bosibl cael y cydbwysedd cywir yn y deiet.

Bydd dadansoddiad yn dangos faint o borthiant ychwanegol sydd ei angen i lenwi unrhyw ddiffygion maeth yn y porthiant.

Capsiwn : Defaid Marchynys ar slatiau.

Ond, roedd gan Mrs Phillips eiriau o rybudd, hefyd. “Os nad yw’r dadansoddiad yn cyd-fynd â’ch arsylwadau o’r cnwd, er enghraifft, os oedd yr amodau torri’n dda ac roedd y cnwd ar y cam cywir ar gyfer cynaeafu ond nad yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn y dadansoddiad, dylech ei wirio eto.”

Ym Marchynys, mae deiet mamogiaid yn cynnwys silwair glaswellt, silwair india corn, haidd wedi’i drin â Hom n’ Dry (peled wrea a soia), triagl, blawd had rêp, Ultrasoy a mwynau.

Eleni, o ganlyniad i oedi cyn cynaeafu, roedd y gwerthoedd maetholion yn is nag arfer, gyda’r dadansoddiad yn dangos 9.9 ME (MJ/kgDM), 11.3% o brotein crai a 40.5% o ddeunydd sych (DM) ar gyfer y silwair clamp, a 9.3% ME, 12.8% o brotein crai a 42.9% DM ar gyfer y silwair mewn byrnau.

Ar gyfer yr india corn cartref, y gwerthoedd hynny oedd 10.8 ME, 8.8% o brotein crai a 44.7% DM.

Dywedodd Mrs Phillips, er bod costau porthiant yn is na phrisiau uchel iawn y llynedd, y dylai ffermwyr bob amser wneud y gorau o’u cynhwysion cartref.

“Cyfrifwch beth sydd gennych chi ar y fferm yn gyntaf, ac yna prynwch y bwyd sydd ei angen arnoch chi yn unig i gydbwyso hynny,” meddai.

Mae bwydo TMR ym Marchynys yn golygu bod mamogiaid yn cael deiet cyson drwy gydol y dydd, felly nid oes unrhyw newidiadau mawr yn pH y rwmen sy’n gysylltiedig â bwydo prydau o ddwysfwydydd ar eu pen eu hunain.

Gellir llunio’r ddogn i fodloni anghenion mamogiaid ar wahanol gamau yn eu  beichiogrwydd, gydag ychydig iawn o newidiadau yn eu deiet.

Mae’r teulu Foulkes yn cyflwyno’r porthiant i rai mamogiaid saith wythnos cyn iddynt ŵyna, ond mae hyn yn dibynnu ar pryd y mae’r anifeiliaid yn cael eu cadw dan do.

Mae Mrs Phillips yn llunio’r dognau ar gyfer mamog 80kg ar sgôr cyflwr corff 3 – 3.5.

Mae hi’n rhagweld pwysau’r porthiant y byddant yn ei fwyta, ond dywedodd ei bod yn bwysig monitro’r cymeriant i weld a ydynt yn cyfateb i’r cymeriant deunydd sych a ragwelir.

“Pwyswch beth mae’r mamogiaid yn ei fwyta, gadewch i’r mamogiaid setlo ar y deiet am wythnos ac yna gwiriwch fod y meintiau’n cyd-fynd â’r cymeriant a ragwelir,” meddai.

“Efallai eu bod yn bwyta 0.5 kg yn fwy neu 0.5kg yn llai o borthiant ffres, ac os yw hynny’n wir, newidiwch y deiet ychydig i gael y cydbwysedd cywir.’

Mae deiet mamogiaid cyn ŵyna yn bwysig am lawer o resymau; mae’n llywio ansawdd colostrwm a chynhyrchiant llaeth heb dynnu cyflwr oddi ar y famog.

Yn ogystal â phorthwr deiet, mae’n rhaid i ffermwyr sy’n ystyried TMR fod ag adeilad sy’n addas ar gyfer y math hwn o fwydo – sef adeilad sydd â llwybrau porthiant ac y gellir ei gyrchu â pheiriant.

Ym Marchynys, mae mamogiaid blwydd cyfeb yn cael eu cadw mewn uned gyda slatiau heb do sy’n dal 650 o ddefaid, ac a gafodd ei adeiladu ar safle cysgodol heb do, nid fel modd arbed costau, ond i gadw porfa ar gyfer pori cynnar yn y gwanwyn ac i gynnal iechyd y ddiadell.

Nid yw’r anifeiliaid yn profi’r problemau anadlu sy’n gysylltiedig â siediau sydd wedi’u hawyru’n wael, ac mae iechyd eu traed yn dda iawn oherwydd bod y defaid yn sefyll ar slatiau ac mae eu traed yn sych.

Yn flaenorol, roedd mamogiaid blwydd yn pori bloc 120 erw tan ganol mis Chwefror, ond, gan fod y fferm mewn ardal o lawiad uchel, roedd y tir wedi’i sathru’n drwm ac ni adferodd tyfiant glaswellt yn iawn tan fis Mehefin o leiaf.

Roedd cadw mwy o’r ddiadell dan do o ddiwedd mis Tachwedd yn opsiwn, ond nid oedd system dan do gonfensiynol yn addas oherwydd yr amser y byddai angen i’r defaid fod yn y sied.

Yr ateb oedd adeiladu uned 150 x 30 troedfedd heb do, wedi’i rhannu’n bum corlan gyda lloriau o slatiau plastig.

Roedd wedi’i leoli wrth ymyl buarth y fferm mewn man cysgodol yn agos at siediau eraill.

Mae mamogiaid blwydd yn cael eu cadw yn y sied o ddiwedd mis Tachwedd hyd ddiwedd mis Chwefror.

Mae wedi’i glustnodi ar gyfer y grŵp hwn o anifeiliaid oherwydd mai nhw yw’r olaf i ŵyna ac felly mae angen eu cadw dan do am y cyfnod hwyaf.

Maent ar y slatiau am ddau fis a hanner cyn cael eu symud i’r sied ŵyna fis cyn wyna.

Caiff y mamogiaid sy’n cario tripledi eu symud i’r sied ŵyna’n gyntaf, ac yna’r rhai sy’n cario gefeilliaid ac yn olaf, y rhai sy’n cario ŵyn sengl.

Gall ffermwyr cymwys gael cyngor ar faeth i drafod y dadansoddiad o’u porthiant neu gymorth i ffurfio dogn trwy gysylltu â’u Swyddog Datblygu lleol neu drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle