Rhoi Cit Diffodd Tân i Ynysoedd Philippines

0
234

Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi rhoi oddeutu 4,500 o eitemau o offer diffodd tân nad oeddent yn cael eu defnyddio mwyach i ddiffoddwyr tân yn ninas Manila yn Ynysoedd Philippines, trwy Operation Florian.

Mae Operation Florian wedi cael ei enwi ar ôl Sant Florian, nawddsant y diffoddwyr tân, ac fe’i sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig ym 1995.  Mae’r elusen yn hyrwyddo amddiffyn bywyd ledled y byd trwy ddarparu offer a hyfforddiant i wella galluoedd diffodd tân, cymorth cyntaf ac achub. Ar ôl mynd ag offer a gyfrannwyd i wledydd ledled y byd, mae timau Operation Florian yn aros gyda chriwiau tân lleol i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio’r hyn a ddarparwyd i’r eithaf.

Ddydd Iau, 7 Rhagfyr, ymwelodd aelodau tîm Operation Florian â Chanolfan Hyfforddi Tân Earlswood GTACGC i dderbyn rhodd o ddillad diffodd tân nad yw aelodau criwiau’r Gwasanaeth yn eu gwisgo mwyach. Llenwodd GTACGC ac aelodau tîm Operation Florian gynhwysydd cludo 40 troedfedd cyfan gyda thua 4,500 o eitemau o offer, gan gynnwys tiwnigau, legings, cyflau fflach a helmedau.

Dywedodd y Cydlynydd Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), Nick McAllister, a oedd yn gyfrifol am drefnu’r rhodd ar ran GTACGC:

“Mae’r Gwasanaeth yn hapus iawn i allu rhoi ei hen Gyfarpar Diogelu Personol strwythurol i achos gwerth chweil.  Trwy weithio gyda’r tîm yn Operation Florian, rydym wedi gallu ailgylchu ein hen Gyfarpar Diogelu Personol strwythurol, a fydd nid yn unig yn lleihau ein heffaith amgylcheddol, ond a fydd hefyd yn sicrhau y bydd yn parhau i wneud gwahaniaeth i’r diffoddwyr tân ac, yn y pen draw, i bobl Ynysoedd Philippines.”

Derbyniodd Roy Barraclough, un o ymddiriedolwyr yr elusen, y rhodd ar ran Operation Florian, a dywedodd:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i GTACGC am y rhodd hon o offer oedd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gyda hwy.  Mae diffyg eitemau cit diffodd tân mwyaf sylfaenol ymhlith diffoddwyr tân yn ninas Manila, felly bydd yr eitemau hyn yn arbed bywydau yn y pen draw – bywydau’r rhai y mae tanau ac argyfyngau eraill yn effeithio arnynt, ond bywydau’r diffoddwyr tân eu hunain hefyd.”

Disgwylir i’r cynhwysydd yn llawn cit diffodd tân gan GTACGC gyrraedd Ynysoedd Philippines yn gynnar yn 2024 a bydd yn cael ei ddosbarthu i wasanaethau tân ac achub ledled y wlad. Dinas Manila yw’r ddinas â’r dwysedd poblogaeth uchaf yn y byd ac mae ei gwasanaeth tân ac achub yn llawer llai datblygedig na’r rhai yn y DU, gyda diffoddwyr tân yn aml yn gorfod ymateb i ddigwyddiadau heb unrhyw ddillad amddiffynnol. Bydd y rhodd gan GTACGC yn gwella eu darpariaeth diogelwch ac ymateb brys yn sylweddol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle