Gallai prawf DNA malwod llaid roi atebion o ran perygl llyngyr yr iau mewn diadelloedd defaid Cymru

0
296
Caption : Sarah Hammond and Robert Williams- part of the Farming Connect Our Farms Network

Gellid taflu goleuni ar resymau dros achosion annisgwyl o chwydd o dan yr ên mewn defaid mewn diadell gaeedig ar fferm yng Nghymru drwy ddefnyddio techneg newydd sy’n nodi presenoldeb malwod llaid sydd wedi’u heintio â llyngyr yr iau.

 Mae Fferm Glyn Arthur, sy’n rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, yn cael ei ffermio gan dad a merch, Peter Williams a Sarah Hammond.

 Maent yn rhedeg diadell o 650 o famogiaid a 180-200 o ŵyn benyw cyfnewid ar eu fferm yr ucheldir 160 hectar ger Llandyrnog, Dinbych.

 Mae’r tir yn sych ar y cyfan, gydag ychydig iawn o fannau gwlyb, felly nid oedd y ddau yn disgwyl i lyngyr yr iau fod yn her iechyd i’w diadell.

Capsiwn : Diadell defaid Cymreig Glyn Arthur

 Ond mae patrymau tywydd newidiol yn golygu bod llyngyr yr iau bellach yn cytrefu ardaloedd a ystyriwyd yn risg isel yn flaenorol, felly pan roedd gan ddefaid ar Fferm Glyn Arthur chwydd hylifol o dan yr ên – roedd pryder mai llyngyr yr iau a allai fod ar fai.

“Nid ydym erioed wedi cael diagnosis o lyngyr yr iau yn y post mortem, ond daethon ni’n amheus pan gawsom ni gynnydd sydyn yn nifer y defaid â chwydd dan yr ên,” meddai Sarah.

Mae’r fferm bellach wedi dechrau ar waith prosiect gyda Cyswllt Ffermio ac Adran Gwyddor Bywyd Prifysgol Aberystwyth i ganfod a oes malwod llaid sydd wedi’u heintio â llyngyr yr iau yn bresennol ar y tir, ac os felly, ym mha ardaloedd y mae defaid yn cael eu heintio â llyngyr yr iau.

 Mae amodau lleol yn pennu’r risg, gyda phorfa wlyb, gorsiog yn darparu’r amodau delfrydol ar gyfer llyngyr yr iau.

 Bydd y fferm yn cael ei harolygu gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cynefinoedd malwod llaid posibl gan ddefnyddio prawf DNA amgylcheddol a ddatblygwyd yn y Brifysgol.

 Dywedodd Dr Rhys Aled Jones, o Brifysgol Aberystwyth, sy’n arwain yr ymchwil hwn, y byddai map yn manylu ar ardaloedd sydd â pherygl o lyngyr ar y fferm yn cael ei greu i helpu Peter a Sarah i wneud penderfyniadau rheoli da byw gwybodus mewn ymgynghoriad â’u milfeddyg.

 Gall ymyriadau i leihau cyswllt rhwng da byw a llyngyr ar borfeydd, fel ffensio a draenio, fod yn gostus, felly mae’n ddefnyddiol gallu nodi a blaenoriaethu pa gynefinoedd sy’n peri’r perygl mwyaf uniongyrchol, yn enwedig wrth i fygythiad ymwrthedd anthelmintig dyfu.

 Mae gwaith prosiect Cyswllt Ffermio wedi cynnwys y milfeddyg Joe Angell yn sgrinio samplau gwaed ŵyn am gysylltiad â llyngyr yr iau.

 Mae hefyd wedi bod yn cynghori Peter a Sarah ar sgorio cyflwr corff a gosod targedau sgôr cyflwr corff ar gyfer mamogiaid ar gyfer adegau allweddol yn y flwyddyn.

 “Rydym ni wedi datblygu cynllun iechyd cynhwysfawr ar gyfer y ddiadell ac, wrth symud ymlaen, bydd y rhesymau dros golli ŵyn a phroblemau gyda ffrwythlondeb mamogiaid yn cael eu hymchwilio,” meddai Joe.

 Bydd rôl elfennau hybrin o ran iechyd diadelloedd yn cael ei hystyried hefyd, a chaiff dull rheoli parasitiaid ei fonitro a’i hoptimeiddio.

 Gallwch gadw llygad ar ddatblygiadau’r prosiect ar wefan Cyswllt Ffermio –https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/ffermydd-presennol/ffermydd-glyn-arthur


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle