Pwyllgor APwyllgor Apêl Elusennol y Maer yn rhoi £1,000 i Glangwilipêl Elusennol y Maer yn rhoi £1,000 i Glangwili

0
195
Yn y llun uchod: Wyn Thomas, Maer Caerfyrddin Cynghorydd; Sylvia Perkins, Maeres Carole Jones, Trysorydd Elusen y Meiri a staff o Ysbyty Glangwili.

Mae Pwyllgor Apêl Elusennol y Maer wedi bod mor garedig â rhoi £500 i’r Uned Dialysis a £500 i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Mae Pwyllgor Apêl Elusennol y Maer yn bwyllgor o wirfoddolwyr sy’n trefnu cyngherddau blynyddol, rafflau, boreau coffi, gwerthiant a digwyddiadau.

 Dywedodd Sylvia Perkins, Maeres: “Ar ran Elusen Maer Caerfyrddin, mae’n bleser gennym gyflwyno’r ddwy siec i’r Uned Dialysis a’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 “Codwyd yr arian yma yn ein noson Cawl a Chân a gynhaliwyd gennym yng Nghlwb Quinns yng Nghaerfyrddin.

 “Fe wnaethon ni ddewis yr unedau hyn gan eu bod yn gwneud gwaith rhyfeddol ac yn gofalu am gymaint o bobl leol sy’n cael triniaeth.”

Dywedodd Gina Beard, Prif Nyrs Ganser: “Rydym mor ddiolchgar pan fydd y cyhoedd yn dewis cefnogi elusen ein bwrdd iechyd ac felly, y gwasanaethau sy’n darparu triniaethau canser.

 “Rydym yn gallu defnyddio’r arian i gefnogi profiad gwell i gleifion. Mae arian a godir fel hyn yn cefnogi adnoddau megis llyfrau defnyddiol a therapi chwarae i blant pobl sy’n mynd trwy driniaeth canser, a gwelliannau yn amgylchedd yr uned sy’n ei wneud yn lle mwy cyfforddus i fynychu. Ni fyddai’r rhain i gyd yn bosibl heb godwyr arian anhygoel.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle