Cyllid newydd i helpu busnesau Sir Gaerfyrddin adeiladu dyfodol glanach

0
222
Image by Nattanan Kanchanaprat from Pixabay
Gall busnesau a sefydliadau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin gael mynediad at gymorth sydd wedi’i ariannu’n llawn ac sydd wedi’i fwriadu i’w helpu i sbarduno arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Chwefror 2024 ymlaen, diolch i gyllid newydd sydd wedi’i sicrhau gan Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC).
Mae’r Rhaglen Twf Glân wedi’i hariannu’n llawn ar gyfer sefydliadau cymwys ac mae’n cynnig yr offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol, a’u helpu i weithio tuag at nodau Sero Net, gwella lefelau gwasanaethau, lleihau costau gweithredu a chyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r rhaglen hefyd yn helpu sefydliadau i hybu arloesedd, gan ddatblygu cynlluniau twf glân a allai fod yn gymwys ar gyfer cyllid arloesi Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i’r galw cynyddol o du busnesau, mae’r cymhwystra ar gyfer mewnlifiad 2024 wedi’i ehangu i gynnwys cwmnïau’r sector preifat am y tro cyntaf.
Bydd y rhaglenni chwe mis newydd yn gweld hyd at 30 o sefydliadau’n dod at ei gilydd i ffurfio cymunedau arloesi newydd. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai misol a dau ddiwrnod preswyl, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol, eu cynlluniau ar gyfer twf glân ac arloesi ar y cyd. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio at y cymorth ychwanegol sydd ar gael a staff prifysgolion, yn ogystal â chymorth mentora 1-i-1.
Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen CEIC, Gary Walpole: “Rydyn ni’n falch iawn o allu ymestyn y rhaglenni CEIC i gwmnïau preifat o 2024 ymlaen trwy’r Rhaglen Twf Glân. Bydd newid y garfan yn creu cyfleoedd gwerthfawr i sefydliadau o bob sector ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu’r arferion gorau a nodi meysydd sydd o ddiddordeb i bawb.
“Yn ein profiad ni, mae’r dull cydweithredol yma yn cyflymu’r gwaith o ddatblygu camau arloesol newydd sydd nid yn unig o fudd i’r sefydliadau dan sylw ond hefyd i’r economi ehangach.”
Mae’r Rhaglen Twf Glân yn dysgu sefydliadau am yr egwyddorion sy’n sail i’r Economi Gylchol, gan eu helpu i ailfeddwl am reoli adnoddau a chyfrannu at uchelgais ‘Sero Net’ Llywodraeth Cymru. Mae’r cyfranogwyr yn rhannu offer, technegau a’r arferion gorau gyda chyd-aelodau’r gymuned er mwyn nodi a dyfeisio atebion ymarferol i’w heriau twf glân.
“Gyda thargedau sero net swyddogol yn ffurfioli cysylltiadau amgylcheddol rhwng sefydliadau ar bob cam o’r gadwyn werth, mae’r rhaglenni CEIC yn cynnig cyfle gwirioneddol i fusnesau a sefydliadau’r trydydd sector ar draws yn Sir Gaerfyrddin gydweithio i ddatblygu cynlluniau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn diogelu eu gweithrediadau yn y dyfodol,” meddai Gary. “Mae pwysigrwydd arferion cynaliadwy a chyd-ddibyniaeth sefydliadau yn cael ei adlewyrchu fwyfwy mewn arferion recriwtio a chaffael, sy’n golygu na fu erioed amser gwell i sefydliadau adolygu eu dull gweithredu a diogelu eu perfformiad yn y dyfodol.”
Mae’r rhaglen Twf Glân yn cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Gall sefydliadau wneud cais drwy www.ceicwales.org.uk/Spring2024 neu gofrestru ar gyfer un o sesiynau Mewnwelediad ar-lein di-dâl CEIC i ddysgu mwy.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle