![Gaining valuable knowledge on pig production and management through Farming Connect training programme](https://xvctqx.infiniteuploads.cloud/2024/01/Gaining-valuable-knowledge-on-pig-production-and-management-through-Farming-Connect-training-programme-696x928.jpg)
Mae pum aelod o CFfI Cymru wedi cael gwybodaeth werthfawr ynglŷn â chynhyrchu a rheoli moch diolch i raglen hyfforddiant ddwys a ddarparwyd gan Cyswllt Ffermio.
Mae menter Prif Gynhyrchydd Porc CFfI Cymru yn ceisio annog mwy o aelodau i ymuno â’r diwydiant moch, fel bridwyr newydd ac yn fasnachol.
Yn 2023, gwelwyd pum aelod yn magu perchyll cyn eu cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth yn y Ffair Aeaf.
Bu i Cyswllt Ffermio chwarae rhan bwysig yn y broses drwy gyflwyno sesiynau hyfforddiant ‘dosbarth meistr’ pwrpasol i’r grŵp – Rose Lewis (Brycheiniog), Cerys Thomas (Ceredigion), Lowri Jones (Sir Gaerfyrddin), Sophie Bennet (Gwent) a Gwern Thomas (Ceredigion).
Bu iddynt ddysgu am hwsmonaeth moch gyda chyngor ymarferol ar drin, pwyso a rhoi brechlynnau.
![](https://xvctqx.infiniteuploads.cloud/2024/01/Masterclass-training-session-with-Young-Farmers-Club-members-at-Cefn-Coch-Ffarm-Rhaglan-225x300.jpg)
Arweiniodd y milfeddyg Lucy Chubb, o Farm First Vets, y sesiwn hon ar Fferm Cefn Coch, Rhaglan, a bu iddi arwain sesiwn arall ar atal clefydau a sicrhau iechyd a lles moch da.
Roedd yna sesiynau rhithwir hefyd, un ar farchnata gyda Nicola Merriman o Landsker Business Solutions yn rhoi awgrymiadau ar sut i adeiladu brand.
Rhoddodd Cate Barrow, o ADAS, ganllawiau ar gynllunio busnes mewn sesiwn arall, gan gynnwys sut y gall paratoi cynllun busnes helpu gyda cheisiadau am grantiau a benthyciadau, yn ogystal â’r gwahanol gyfleoedd ar gyfer dechrau ffermio moch, o’r model gwely a brecwast i ‘borchell i besgi’, yn ogystal â rhesymau eraill dros gael moch ar y fferm, megis at ddibenion adfywio.
Disgrifiodd Lee Pritchard, Swyddog Materion Gwledig CFfI Cymru, y cymorth a roddwyd gan Cyswllt Ffermio fel “cymorth a oedd yn hynod werthfawr”.
“Fel mudiad rydym yn hynod ffodus i gael cymorth Cyswllt Ffermio i alluogi ein haelodau i ddod i mewn a ffynnu yn y sector moch,” meddai.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle