Beiciodd Rhys James 130 milltir mewn un diwrnod gan godi £2,117 i Adran Gardioleg Ysbyty Glangwili.
Beiciodd Rhys, athro gitâr peripatetig o Gaerfyrddin, o Gaernarfon yn y gogledd i Gaerfyrddin yn ne Cymru ar 16 Medi 2023.
Penderfynodd Rhys godi’r arian fel diolch am y gofal ardderchog a gafodd gan staff yr adran.
Dywedodd Rhys: “Cefais lawdriniaeth ar y galon yn Ysbyty Treforys ym mis Ionawr 2023 a oedd yn dilyn llawer o fonitro a gofal yn yr Adran Gardioleg yn Glangwili.
“Roedd eu diagnosis a’u monitro yn hanfodol ar gyfer fy nhriniaeth gyflym a’m hadferiad. Roedd yn gysur mawr gallu siarad â gweithwyr proffesiynol yn gynnar a gwybod fy mod yn cael fy monitro ac yn cael y cyfle gorau i wella.
“Aeth y daith feicio yn dda heb unrhyw ddigwyddiadau na thyllau olwyn. Nid oedd y tywydd yn wych gyda glaw ar adegau, ond braf oedd gweld hyd Gymru yn fanwl mewn un diwrnod, felly er ei fod yn ddiwrnod blinedig, roedd hefyd yn bleserus.
“Roedd ymateb fy nghodi arian yn rhyfeddol, roedd yn eithaf emosiynol gweld yr arian yn dod i mewn, mae gen i ffrindiau a theulu hael iawn. Roedd gen i nod annelwig mewn golwg, ond rhagorais ymhell ar hyn sy’n wych.
“Hoffwn ddiolch i staff diflino ein GIG. O borthorion i feddygon ymgynghorol, nyrsys a meddygon teulu. Cefais fy nhrin yn effeithlon a gyda gofal ar draws dau ysbyty, roedden nhw i gyd yn wych.”
Dywedodd Andrea Evans, Nyrs Adsefydlu Cardiaidd: “Hoffai’r tîm Arhythmia ddiolch i Rhys am ei ymrwymiad i drefnu’r digwyddiad codi arian ar gyfer ein gwasanaeth.
“Mae ei weithredoedd caredig a hael wedi arwain at godi swm sylweddol o arian, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’w dderbyn.
“Rydym yn rhagweld y bydd y cronfeydd elusennol hyn yn prynu offer newydd ac arloesol ar gyfer asesu a chanfod rhythmau annormal y galon, a fydd yn y pen draw yn helpu i wella gofal cleifion. Diolch.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Rhys am ymgymryd â’i daith feicio i godi arian i’n helusen.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle