Wrth i gyfnod y Nadolig ddod i ben, ac i bobl droi eu sylw at Flwyddyn Newydd fwy heini a daionus, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn cynnig cyfle unigryw i gadw’n heini a chodi arian ar gyfer achos teilwng.
Mae pedwar lle ar gael yn rhad ac am ddim yng nghystadleuaeth IRONMAN Cymru eleni, a fydd yn cael ei chynnal yn ne’r sir ddydd Sul 22 Medi 2024.
Fis Medi yma, bydd y digwyddiad poblogaidd yn croesawu miloedd o bobl a fydd yn rhoi cynnig ar nofio 2.4 milltir, beicio am 112 milltir, a rhedeg marathon ar hyd rhai o lwybrau mwyaf heriol de Sir Benfro.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Gan fod pob lle ar gyfer cofrestru wedi’u cymryd, dyma gyfle euraidd nid yn unig i gymryd rhan yn y digwyddiad eiconig hwn, ond hefyd i gael effaith barhaol ar warchod ein tirweddau arfordirol godidog.
“Os ydych chi’n frwd dros awyr agored Sir Benfro, ac yn mwynhau ymgymryd â heriau corfforol, cysylltwch â ni.
“Byddai angen i’r rhai sydd awydd ymgymryd â’r her ymrwymo i godi isafswm o £750, a byddai angen i’r Ymddiriedolaeth dderbyn y swm llawn a addawyd erbyn diwedd mis Awst.”
Os hoffech chi fanteisio ar y cynnig i hawlio eich lle yn y ras yn rhad ac am ddim, dylech anfon eich datganiadau o ddiddordeb at support@pembrokeshirecoasttrust.wales.
Mae rhagor o wybodaeth am IRONMAN Cymru ar gael yn https://www.ironman.com/im-wales.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle