Mae lleoliadau diwydiant a phrofiad gwaith rhyngwladol wrth wraidd rhaglenni chwaraeon newydd un o’r colegau gorau.

0
156
recent visit to the Spanish city, which featured a trip to the stadium of La Liga side Espanyol.

Mae Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi ailwampio cyrsiau i sicrhau bod dysgwyr yn barod i fynd i fyd gwaith ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Yn ôl y darlithydd a hyfforddwr Sean Regan mae Diplomâu Lefel 2 a Lefel 3 mewn Chwaraeon wedi cyrraeddlefel arallers symud i achrediad NCFE (Cyngor Addysg Bellach y Gogledd).

Ac fe wnaeth ymweliad diweddar â Barcelona yn Sbaen gyda charfan o 27 o fyfyrwyr – a oedd yn cynnwys teithiau i stadiwm La Liga side Espanyol a sesiynau gyda NexGen Careers – ddangos y blas byd-eang y bydd Cambria yn ei ychwanegu at ei gymwysterau galwedigaethol yn y dyfodol.

Fe allwch chi eisoes weld yr effaith mae’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud wedi’u cael y flwyddyn academaidd hon, a dim ond wrth i’r rhaglenni ddatblygu y bydd hynny’n parhau,” meddai Sean.

“Mae gwibdeithiau addysgol dramor yn arbennig o werthfawr gan eu bod nhw’n rhoi golwg ehangach i’r dysgwyr ar chwaraeon ar y llwyfan rhyngwladol, a’r opsiynau gyrfa sydd ar gael iddyn nhw. I rai efallai mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fod ar awyren a gweld mwy o’r byd, felly mae’n wych gallu gwneud hyn iddyn nhw.

“Ein rôl ni ydi eu paratoi nhw ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, boed hynny yn y DU, yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd, felly mae’r math hwn o brofiad yn hynod fuddiol.”

recent visit to the Spanish city, which featured a trip to the stadium of La Liga side Espanyol.

Bydd partneriaeth ag Aura Cymru, sy’n cyflogi mwy na 250 o staff ac yn cynnal cyfleusterau hamdden ar draws Sir y Fflint, hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael blas ar sut beth y gallai swydd yn y sector chwaraeon fod.​

Cynhaliodd y gymdeithas budd cymunedol gyfres o ddigwyddiadau gyrfaoedd gyda Cambria ac mae wedi eu cyfeirio at gyfleoedd prentisiaeth a gwirfoddoli, wedi cynnal gweithgareddau a hyd yn oed profion nofio i ganfod pwy sydd orau i’w roi ar y cwrs achubwyr bywyd, sy’n cael ei ariannu gan y coleg.

Dywedodd y darlithydd Ellen Edwards: “Bydd y senarios bywyd go iawn yma’n paratoi myfyrwyr ar gyfer swydd mewn chwaraeon, rhywbeth na allan nhw ei gael dim ond wrth eistedd yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r rhaglenni newydd yn ymwneud i raddau helaeth â bod yn rhan o’r gymuned ac wrth galon chwaraeon yng ngogledd ddwyrain Cymru, boed hynny trwy hyfforddi, dyfarnu, prosiectau iechyd a llesiant, cymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau neu weithio gydag ysgolion lleol a gwasanaethau hamdden.”

Ychwanegodd Sean: “Rydyn ni’n disgwyl cael hyd yn oed mwy o gyfleoedd a chyrsiau o’r flwyddyn nesaf ymlaen, o ystyried y cysylltiadau rydyn ni’n eu gwneud gartref ac ar y llwyfan rhyngwladol.

recent visit to the Spanish city, which featured a trip to the stadium of La Liga side Espanyol.

“Creu cymaint o lwybrau o ansawdd uchel â phosibl i’n dysgwyr fel eu bod nhw’n llawn gwybodaeth ac yn barod ar gyfer diwydiant ar ôl gadael Cambria yw ein prif flaenoriaeth, ac mae popeth yn gysylltiedig â’i gilyddyn bendant, dyma’r lle i fod i unrhyw un sy’n ystyried dyfodol yn y byd chwaraeon.”

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle