Mae mabwysiadu dull rhagweithiol o fynd i’r afael â chlefyd Johne’s, trwy brofi a chael gwared ar anifeiliaid heintiedig yn rheolaidd, wedi lleihau achosion o’r clefyd o 16% i sero yn y fuches bîff ar fferm deuluol yng Nghymru sydd wedi manteisio ar sawl gwasanaeth a ariennir gan Cyswllt Ffermio.
Mae profion gwaed ar gyfer clefyd Johne’s yn un o lawer o wasanaethau sy’n cael eu cynnig o dan y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd y mae Gary ac Anwen Orrells, a’u merch a’u mab, Elin (22 oed) a Jonny (19 oed), wedi manteisio arnynt.
Maent wedi profi am ymwrthedd i driniaethau llyngyr yn eu diadell ddefaid, monitro statws maetholion pridd y fferm, ennill sgiliau a hyfforddiant gwerthfawr a defnyddio gwasanaethau eraill, hefyd.
“Mae’r rhain wedi bod o gymorth mawr i ni wrth ddatblygu’r busnes,” meddai Gary.
Mae’r teulu’n ffermio cymysgedd o dir y mae’n berchen arno ac yn ei rentu ar draws 1,170 erw yn Aber-miwl, Sir Drefaldwyn, a Sir Amwythig, lle mae ganddynt fentrau âr, bîff a defaid; mae incwm trwy arallgyfeirio yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy a siediau sy’n cael eu llogi i eraill.
Mae buches sugno â 140 o wartheg British Blue croes ac Aberdeen Angus croes, sy’n lloia yn y gwanwyn, yn cynhyrchu lloi sy’n cael eu gwerthu fel anifeiliaid stôr yn 10-12 mis oed.
Er bod semen â’r rhyw wedi’i bennu yn cael ei ddefnyddio bellach i gynhyrchu stoc cyfnewid, roedd y busnes wedi cael heffrod ar gyfer cael tarw o ffermydd llaeth yn flaenorol.
Roedd gan y system hon wendid sylweddol; ar ôl iddynt loia am y tro cyntaf, collodd rhai anifeiliaid gyflwr corff a thybiwyd mai clefyd Johne’s oedd yr achos.
Yn 2019, cychwynnodd y teulu Orrells ar raglen profi gwaed gyda chyllid gan Cyswllt Ffermio.
Yn yr un flwyddyn, datgelodd y samplau hynny fod pump o’r 32 o heffrod a brofwyd yn bositif am glefyd Johne’s – sef cyfradd achosion o 16%. Gwerthwyd yr anifeiliaid hynny fel stoc nad oedd yn magu.
Ar ôl rhaglen flynyddol ddilynol o brofi a chael gwared, yn 2023, ni nodwyd unrhyw achosion o glefyd Johne’s yn y 31 o heffrod a fagwyd gartref yn bennaf.
Dywed Gary fod y gefnogaeth gan Cyswllt Ffermio wedi bod yn amhrisiadwy. “Mae gennym ni berthynas wych â’n milfeddygon; fe wnaethon nhw ein rhoi mewn cysylltiad â’n swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Elin Williams, ac fe wnaeth hi ein cyfeirio at y gwasanaeth profi gwaed a gwasanaethau eraill hefyd.”‘
Mae’n falch bod statws iechyd uchel y gwartheg wedi’i adfer. “Mae gennym fuches fechan o wartheg Limousin pur, hefyd, felly mae’n rhaid i’r statws iechyd ar ein fferm gyfan fod yn berffaith.”
Mae hynny’n berthnasol i’r ddiadell gaeedig o 1,200 o famogiaid magu, hefyd.
Mae’r ddiadell yn cynnwys 500 o famogiaid Cymreig wedi’u Gwella a 700 o famogiaid Aberfield, gyda’r holl hyrddod wedi’u prynu drwy Innovis a’r Cynllun ProHill. Mae hefyd ddiadell fechan o famogiaid Cheviot Tiroedd y Gogledd pur.
Mae Gary yn cyfaddef nad oedd ganddo “syniad” y gallai fod problem gydag ymwrthedd i driniaethau llyngyr, ond pan ddechreuodd ŵyn a oedd wedi’u diddyfnu danberfformio, roedd hynny’n codi pryderon.
Er mwyn canfod a oedd problem, cychwynnodd ar brosiect fferm ffocws Cyswllt Ffermio, gyda chyfrifiadau wyau ysgarthol yn cael eu cymryd o ŵyn tew; samplwyd y rhain cyn rhoi dos a hefyd 14 diwrnod ar ôl triniaeth, i ganfod effeithiolrwydd triniaethau llyngyr gwyn, melyn a chlir.
Dangosodd yr ymarfer hwn fod y dos gwyn wedi lleihau beichiau llyngyr 54% yn unig, ond y gellid ei ddefnyddio’n effeithiol i reoli nematodirus. Canfuwyd bod y triniaethau llyngyr eraill yn effeithiol.
Dim ond y dos gwyn y mae’r teulu Orells yn ei ddefnyddio yn y gwanwyn erbyn hyn i amddiffyn ŵyn rhag nematodirus.
“Nematodirus yw’r parasit rydyn ni’n poeni amdano tan fod yr ŵyn yn chwech i wyth wythnos oed, felly mae’n galonogol gwybod os nad ydyn ni’n gorddefnyddio’r dos gwyn, eu bod nhw’n dal i fod yn effeithiol,” meddai Gary.
Mae pori cymysg gyda defaid a gwartheg hefyd yn cael ei ddefnyddio fel arf i reoli beichiau llyngyr ar dir pori.
Mae perfformiad y borfa honno a chnydau âr y teulu Orrells yn cael ei bennu’n rhannol gan statws maethol priddoedd y fferm.
Gyda thail dofednod yn cael ei roi’n strategol ar dir âr ar lefel tair tunnell yr erw i gyflenwi ffosffad a photasiwm (P a K), defnyddir samplu pridd i sicrhau bod y priddoedd ar y mynegai cywir ar gyfer y maetholion hyn a maetholion eraill.
“Mae’r samplu hwn wedi dangos i ni ein bod ni bellach yn cyrraedd pwynt lle mae’r mynegeion ar rai caeau lle mae angen iddynt fod ar gyfer P a K, fel y gallwn ni deilwra ein rhaglen taenu tail yn unol â hynny,” meddai Gary.
Yn y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, mae samplu grŵp yn cael ei ariannu hyd at 90%, a bydd Cyswllt Ffermio yn talu hyd at 70% o’r gost ar gyfer samplu unigol.
Mae grwpiau trafod Cyswllt Ffermio hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu’r teulu Orrells i lunio eu system.
Mae maint bach y grwpiau trafod hyn yn ddefnyddiol o ran ysgogi trafodaeth, meddai Gary, sydd wedi bod yn aelod o grwpiau sy’n canolbwyntio ar bîff a maeth, a hefyd grŵp trafod cynhyrchwyr defaid a oedd yn edrych yn benodol ar gostau cynhyrchu a meincnodi ac a oedd yn cynnwys nifer o gyfarfodydd technegol.
Mae Gary hefyd yn aelod o Grŵp Llywio Ffermwyr Cyswllt Ffermio.
Mae Cyswllt Ffermio wedi helpu i feithrin cenhedlaeth nesaf y teulu Orells hefyd, trwy ddarparu cyfleoedd i gael sgiliau a hyfforddiant gwerthfawr.
Gyda chymhorthdal o hyd at 80% gan raglen Dysgu Gydol Oes a Datblygu Cyswllt Ffermio, mae Elin wedi cwblhau cwrs cymorth cyntaf ac wedi ennill tystysgrif mewn defnyddio meddyginiaethau’n ddiogel, tra bod Jonny wedi cychwyn ar hyfforddiant mewn defnyddio plaladdwyr yn ddiogel, a ariannwyd 40%.
“Pe bai’n rhaid i ffermwyr dalu’n llawn am y cyrsiau hyn, byddai’n fuddsoddiad mawr ac efallai’n rhwystr i gyflawni’r hyfforddiant, felly mae cael 80% o’r gost gan Cyswllt Ffermio yn gymhelliant mawr i gwblhau’r cyrsiau a gwneud yn siwr bod pethau’n cael eu gwneud yn gywir ac yn ddiogel ar y fferm,” meddai Elin.
Roedd cwrs arall â chymhorthdal gan Cyswllt Ffermio a gwblhawyd gan Jonny – sef cwrs uwch deuddydd ar gneifio defaid – yn allweddol o ran ei helpu i sicrhau gwaith yn Seland Newydd y gaeaf hwn.
Mae Elin, sy’n fyfyrwraig amaethyddiaeth yn ei phedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, hefyd wedi ehangu ei gorwelion ers sicrhau lle ar Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn 2020.
Er i’r pandemig leihau’r cyfleoedd y mae’r Academi Amaeth yn eu rhoi i deithio a chwrdd â phobl, dywed Elin iddi fagu hyder, gwybodaeth a rhwydwaith gwerthfawr o gysylltiadau, yn ogystal â meithrin cyfeillgarwch.
“Roedd yn brofiad anhygoel, ac yn ogystal â’r wybodaeth a’r sgiliau a gefais, rwyf wedi dod i adnabod pobl o’r un anian o bob rhan o Gymru.”
Anogodd Elin ffermwyr eraill i wneud defnydd llawn o’r gwasanaethau a gynigir gan raglen Cyswllt Ffermio.
“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru fod gennym y cyfleoedd a gyflwynir gan Cyswllt Ffermio; mae’n gwneud synnwyr busnes da i’w defnyddio.”
Mae swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol y busnes, Elin Williams, yn dweud ei bod hi wedi dod i ddeall eu busnes a’u gofynion, trwy gyswllt rheolaidd â’r teulu Orrells a’u cyfranogiad mewn digwyddiadau a chyfarfodydd.
“Mae hyn wedi fy ngalluogi i gyfeirio’r teulu at wasanaethau perthnasol Cyswllt Ffermio, ac mae hyn wedi cyfrannu at y gwelliannau busnes lluosog hyn.”
Mae’r teulu, meddai, wedi mabwysiadu ymagwedd flaengar yn gyson drwy adolygu perfformiad y busnes yn barhaus a nodi meysydd i’w gwella.
“Mae’r gwaith a wnaed yma yn dangos y gall gwerthuso a monitro perfformiad yn rheolaidd, ynghyd â cheisio cyngor a phrofion, pan fo angen, arwain at enillion sylweddol,” meddai.
“Fel y mae’r teulu Orrells wedi’i wneud, byddwn yn annog unrhyw fusnes i gysylltu â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol i drafod eu hanghenion, gan y gallai rhai gwasanaethau fod yn werthfawr ac arwain at welliannau, fel y mae’r teulu Orrells wedi dangos.”
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gysylltu â’ch Swyddog Datblygu lleol, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/cysylltwch-ni/eich-swyddog-datblygu-lleol
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle