Bydd cyfres o ddigwyddiadau agored i oedolion yn cael eu cynnal yng Ngholeg Cambria fis yma.

0
192
Cambria Advice

Byddan y digwyddiadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y safleoedd coleg canlynol:

Glannau DyfrdwyDydd Llun 22 Ionawr o 4pm-7pm.

Iâl, WrecsamDydd Mawrth 23 Ionawr o 4pm-7pm.

Ffordd y Bers, WrecsamDydd Mawrth 23 Ionawr o 4pm-7pm.

Mae’r coleg, sydd â safleoedd yn Llaneurgain a Llysfasi hefyd, yn gobeithio denu pobl sydd eisiau ail-addysgu eu hunain a dysgu sgiliau newydd, y rhai sy’n cynllunio newid gyrfa, hobi newydd, neu sydd eisiau symud ymlaen yn eu swydd bresennol.

Dywedodd Pennaeth y Coleg Sue Price: “Mae’r digwyddiadau yn llwyfan i oedolion ar draws y rhanbarth a thu hwnt i ymestyn eu gorwelion ac archwilio’r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, o brentisiaethau i gyrsiau sgiliau hanfodol, rhaglenni AU a rhagor.

Sue Price

Rydyn ni’n cynnal llawer o gyrsiau hyblyg wedi’u teilwra i drawstoriad o ddiwydiannau, felly mae rhywbeth at ddant pawb, ble bynnag maen nhw’n gweld eu dyfodol.”

Ychwanegodd hi: “Bydd staff a darlithwyr wrth law hefyd i drafod ffioedd ac ariannu, i helpu darpar ddysgwyr i wneud cais i ymuno â ni ac – i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawfmae’r opsiwn o gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA).”

Yn ôl adroddiad diweddar gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) roedd mwy na thraean (35%) o’r swyddi gwag yng Nghymru yn anodd eu llenwi yn 2022 oherwydd ansawdd yr ymgeiswyr a phrinder sgiliau, gan effeithio ar 10% o’r holl fusnesau.

Dros gyfnod o chwe blynedd, mae prinder sgiliau wedi mwy na dyblu yng Nghymru o 9,000 yn 2017 i 20,600 yn 2022, ac mae cyflogwyr wedi bod yn gwario 20% yn llai ar hyfforddi hyfforddai.

Mewn ymateb i hyn, mae’r CIPD yng Nghymru wedi galw am ragor o bobl i wneud cais am brentisiaethau, yn arbennig i rai dan 25 oed sy’n cynrychioli llai na 50% o’r bobl sydd wedi cofrestru o’i gymharu â’r rhai dros 25, ac i gynyddu capasiti busnesau bach a chanolig i ymgysylltu â’r system brentisiaethau trwy gymorth busnes a rheoli pobl gwell a chyfannol.

“Mae yna alw am weithwyr medrus, addysgedig ac ymroddedig ar draws y wlad, ac rydyn ni yma i helpu i lenwi’r bylchau hynny,” ychwanegodd Mrs Price.

Bydd y digwyddiadau agored yn cyfeirio’r rhai sydd â diddordeb at gyrsiau a phrentisiaethau a allai ffurfio pennod gyffrous nesaf eu bywydau a’u gyrfaoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol ac ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk/campaigns/adult-education-open-events/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle