Merched y Wawr yn cyfrannu £750 i Ysbyty Bronglais

0
193
Pictured above (L-R): Rachel Bran, SACT Unit Senior Nurse; Irene Thomas; Julie Voller, Staff Nurse; Megan Richards; Daphne Evans and Ceris Jones, Cardiac Physiologist.

Mae Merched y Wawr Felinfach wedi cyfrannu £375 yr un i Uned Ddydd Cemotherapi ac Uned Gardioleg Ysbyty Bronglais.

I godi arian, agorodd Megan Richards, aelod o Ferched y Wawr Felinfach, ei chartref a gwneud pryd o fwyd i aelodau eraill y clwb.

Dywedodd Delyth Davies, Llywydd Merched y Wawr Felinfach: “Mae’r arian a roddwyd i’r ddwy uned yn werthfawrogiad o’u gwaith a’r gofal mae rhai o’r aelodau a’u teuluoedd yn ei dderbyn.

“Rydym fel cangen yn ddiolchgar iawn i Megan am ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i agor ei chartref i elusen.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd. rydyn ni’n ei dderbyn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle