Rhedwyr yn codi dros £2,000 i Ward Picton

0
147
Pictured above from left to right: Pictured (L-R): Maria Nicholas, Carys James, Sioned Philips, Nurse, Bethan James, Esther Ayiloge, Nurse and Heidi Jones, Health Care Support Worker.

Rhedodd Carys James a Maria Nicholas Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref gan godi dros £2,000 ar gyfer Ward Picton, y Ward Gynaecoleg, yn Ysbyty Glangwili.

 Rhedodd y pâr yr hanner marathon i ddiolch i’r holl staff a oedd yn gofalu am Mam Carys a gafodd ddiagnosis o ganser yr ofari ym mis Tachwedd 2022.

 Dywedodd Carys: “Roedd Hanner Marathon Caerdydd yn hwyl ac yn hynod werth chweil. Mwynhaodd y ddau ohonom yn fawr. Mae’n dipyn o gamp i Maria o ystyried mai dim ond ym mis Ionawr 2023 y dechreuodd hi redeg.

 “Fe wnaethon ni godi £4,030.28, ac fe’i rhannwyd rhwng dwy ward. Aeth £2,015.14 i Ward Picton yn Ysbyty Glangwili a bydd y £2,015.14 sy’n weddill yn cael ei roi i Ward 12 yn Ysbyty Singleton.

 “Ein nod oedd codi £1,000 ac fe wnaethom ragori ar ein nod o fewn y 24 awr gyntaf. Mae’r ddau ohonom wedi ein syfrdanu gymaint gan yr hyn rydym wedi’i gyflawni a’r arian rydym wedi’i godi ar gyfer y ddwy ward anhygoel a oedd yn gofalu am fy Mam ar adeg pan oedd ei hangen fwyaf arni.

 “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r nyrsys a’r staff ar Ward Picton yn Ysbyty Glangwili ac ar Ward 12 yn Singleton.

 “Heb y staff anhygoel, efallai na fyddai Mam wedi dychwelyd adref. Rydym yn ddiolchgar am byth am eich gwaith caled. Hefyd, diolch yn fawr iawn i Feddyg Ymgynghorol Mam yn Ysbyty Singleton, rydych chi wedi bod yn hollol anhygoel trwy’r daith gyfan hon, ac rydyn ni fel teulu yn diolch i chi am bopeth rydych chi wedi’i wneud i helpu.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle