Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Cefnogi Wythnos Cofrestru fy Offer

0
142

Y ffordd orau i ofalu am offer.

@registermyappliance.org.uk

Heddiw, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi Wythnos Cofrestru fy Offer ac yn annog pob cartref i ofalu am eu hoffer yn y ffordd symlaf a phwysicaf: cofrestru eu hoffer cartref i sicrhau bod eu brandiau yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt. P’un a yw’r teclynnau wedi’u prynu’n ddiweddar, wedi’u gosod ers amser maith, wedi eu cael ‘bron yn newydd’ neu’n ail-law, mae eu cofrestru’n hanfodol i helpu i sicrhau bod modd eu defnyddio’n ddiogel am cyn hired â phosibl.

Yn ôl arolwg newydd a gynhaliwyd ar gyfer y Gymdeithas Gwneuthurwyr Offer Domestig (AMDEA) gan YouGov[1], mae’r mwyafrif helaeth (60%) o oedolion y DU yn credu bod eu hagwedd tuag at ofalu am eu hoffer wedi newid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – boed hynny er mwyn ceisio gwneud i’w heiddo bara’n hirach, neu i arbed arian neu adnoddau. Ac eto nid yw bron i draean (32.2%) y boblogaeth byth neu braidd byth yn cofrestru eu hoffer mawr. Amcangyfrifir bod 133 miliwn o oergelloedd, peiriannau golchi a phoptai’n cael eu defnyddio mewn cartrefi yn y DU[2] a gallai hyn olygu bod tua 42.8 miliwn heb gael eu cofrestru.

Er bod galw offer cartref yn ôl yn rhywbeth prin, gall problemau gyda’r offer ddatblygu dros amser a gall addasiad syml, rhad ac am ddim yn y cartref gan beiriannydd cymwys sicrhau bod peiriannau’n parhau i fod yn fwy diogel am gyfnod hirach. Ond, yn wahanol i’n ceir, mae llawer o’r eiddo gwerthfawr hyn yn dal i fod yn anodd cael gafael arnynt oherwydd nad ydynt wedi cael eu cofrestru.

Mae porth Cofrestru Fy Offer AMDEA yn rhoi ateb cyflym a hawdd sy’n cynnig mynediad ar-lein i dros 70 o frandiau blaenllaw, gyda’r mwyafrif yn fodlon cofrestru offer newydd a hŷn.

Datgelodd yr arolwg hefyd fod dros chwarter (29%) o oedolion eisoes wedi prynu offer mawr ail-law yn y gorffennol ac y byddai 50% yn ystyried hyn yn y dyfodol. Yn yr un modd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd mwy na hanner (53%) yr oedolion wedi prynu offer coginio bach newydd ond roedd y mwyafrif (59%) yn dal heb eu cofrestru. O ran offer hŷn, nid yw’r rhan fwyaf o oedolion y DU (57%) yn ymwybodol bod dal modd iddynt gofrestru offer hyd yn oed os na fu ganddynt erioed y dderbynneb neu os nad yw’r dderbynneb ganddynt mwyach. Yn y rhan fwyaf o achosion, y cyfan sydd ei angen ar gyfer cofrestru yw gwybodaeth am y model a’r rhif, ac mae cyngor clir ar y porth ar gyfer ble i ddod o hyd i’r manylion hyn.

Dywed Wayne Thomas Rheolwr Diogelwch Tân yn y Cartref:

“O gofio ein bod ni gyd yn pryderu bod angen i’n heiddo bara’n hirach, gan weithio’n ddiogel ac yn effeithlon, mae’n gwneudsynnwyr i gymryd gofal i gofrestru ein holl offer mawr yn ogystal â’r teclynnau bach yna yr ydym yn dibynnu fwyfwy arnynt yn y gegin. Mae’n rhad ac am ddim ac mae’n golygu mai chi fydd y cyntaf i wybod os bydd angen atgyweirio’r offer er diogelwch. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd a bydd gennych dawelwch meddwl ac efallai y bydd y teclyn yn para’n hirach hefyd.”

Roedd yr arolwg hefyd yn holi ynglŷn â dealltwriaeth defnyddwyr o’r derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol fathau o offer sydd ‘bron yn newydd’. Er bod 73.4% a 72% o bobl yn deall y termau ‘wedi’u hadnewyddu’ a ‘model arddangos’, dim ond 46.2% oedd yn gwybod beth oedd ystyr ‘allan o’r bocs’, a dim ond 22.4% sy’n dweud eu bod yn deall yr ymadrodd ‘wedi’u graddio’. Roedd 12.6% wedi eu drysu gan yr holl ddisgrifiadau.

Er y gall gweithgynhyrchwyr a siopau ddefnyddio termau ychydig yn wahanol i ddisgrifio offer ‘bron yn newydd’ neu gyfarpar ‘sydd wedi cael ei ddefnyddio’, mae bob amser yn dda cwestiynu pam mae’r cynnyrch yn rhatach a holi ynglŷn â gwarant. Ar gyfer arweiniad cychwynnol, mae’r diffiniadau fel arfer fel a ganlyn:

  • Allan o’r bocs, neu focs agored: Yn llythrennol, nid yw bellach yn y bocs gwreiddiol neu focs wedi’i selio. Yn aml mae’n golygu darn o offer sydd wedi’i ddychwelyd neu ei ddefnyddio fel model arddangos. Yn y naill achos neu’r llall, efallai fod nam neu grafiad bach ar yr wyneb y mae’n rhaid ei nodi.
  • Wedi’u graddio: Fe’u gelwir weithiau’n stoc gradd B neu wedi dod o’r ffatri â nam bach arnynt. Offer newydd sbon yw’r rhain sydd wedi’u dychwelyd i’r cyflenwr neu’r gwneuthurwr gwreiddiol. Mae yna nifer o resymau dros ddychwelyd offer, ond y mwyaf cyffredin yw oherwydd difrod cosmetig i’r offer neu oherwydd nad yw’r offer yn berffaith. Unwaith eto, dylai’r manylion fod ar gael.
  • Wedi eu hadnewyddu: cynhyrchion sydd wedi’u dychwelyd oherwydd eu bod yn ddiffygiol ac wedi’u trwsio. Gwiriwch fod hyn wedi’i wneud a’i brofi gan y gwneuthurwr neu ei gynrychiolydd.
  • Model arddangos: Fel mae’r enw’n awgrymu mae’r offer hyn wedi cael eu harddangos. Mae’n debyg nad ydynt erioed wedi cael eu defnyddio ond efallai fod ganddynt ddiffygion cosmetig ac efallai na fydd y bocs neu becyn gwreiddiol ar gael.

[1] Mae’r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, yn dod o YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 2096 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 20 a 21 Rhagfyr 2023. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o holl oedolion y DU (18+ oed).

[2] Ffigurau Llywodraeth y DU: Defnydd o Ynni yn y Deyrnas Unedig (ECUK): Tablau Defnydd Ynni Terfynol. Mae’r ffigurau a ddefnyddir ar gyfer offer oer, gwlyb (gan gynnwys hen beiriannau golchi a sychu), hobiau trydan a phoptai trydan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle