Mae ‘Defibruary,’ ymgyrch flynyddol St John Ambulance Cymru, yn ôl gyda chlec, gyda’r nod o ddysgu sgiliau cymorth cyntaf achub bywyd i hyd yn oed mwy o bobl mewn yn ystod mis Chwefror.
Nod ymgyrch ‘Defibruary’ yw codi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr ac amlygu eu pwysigrwydd yn y gymuned. Yng Nghymru, mae mwy na 6,000 o bobl y flwyddyn yn cael ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae 80% o’r rhain yn digwydd gartref.
Bydd ymgyrch yr elusen cymorth cyntaf yn cychwyn yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg, lle bydd St John Ambulance Cymru yn rhoi arddangosiadau diffibriliwr a CPR i bob un o’r 720 o ddisgyblion, yn ogystal ag aelodau o staff yr ysgol.
Mae nifer o westeion arbennig wedi’u gwahodd i ddod draw i helpu i godi ymwybyddiaeth ac mae’r digwyddiad hwn yn un o’r sesiynau arddangos niferus y mae’r elusen wedi’u cynllunio ar gyfer mis Chwefror.
Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol St John Ambulance Cymru: “Rydym am i bobl fod yn hyderus wrth weinyddu CPR a defnyddio diffibriliwr, i sicrhau fod gan fwy o bobl y sgiliau sydd eu hangen i achub bywyd os oes rhywun yn agos atynt mewn angen.”
“Rydym hefyd yn annog pobl i gofrestru ar gyfer un o gyrsiau cymorth cyntaf premiwm St John Ambulance Cymru neu drefnu sesiwn arddangos i’ch ysgol neu grŵp cymunedol a gynhelir trwy gydol mis Chwefror am ddim.”
Bydd digwyddiadau cyhoeddus cyntaf yr ymgyrch yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle bydd arddangosiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ddydd Gwener 2 a dydd Sadwrn 3 Chwefror rhwng 10am a 4pm.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn annog pobl i ddysgu ble mae’r diffibriliwr agosaf atynt a chofrestru unrhyw rai y maent yn gyfrifol amdanynt gydag ap The Circuit, fel y gall y gwasanaethau brys gyfeirio pobl at yr un agosaf atynt mewn argyfwng. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am The Circuit yma http://www.thecircuit.uk.
Drwy gydol y mis, mae St John Ambulance Cymru yn gofyn am roddion i ariannu diffibrilwyr mynediad cyhoeddus newydd ar gyfer eu hadeiladau mewn cymunedau ledled y wlad. Mae diffibriliwr yn ddarn o offer achub bywyd, felly gall cynyddu nifer y diffibrilwyr mewn cymunedau, yn enwedig cymunedau anghysbell, gwledig, olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
Mae St John Ambulance Cymru yn rhedeg yr ymgyrch oherwydd pobl fel Joe.
Roedd Joe Hayward, 52 oed, yn cystadlu yn nigwyddiad seiclo Gritfest gyda grwp o ffrindiau fis Mehefin diwethaf pan ddioddefodd ataliad y galon yn ddirybudd.
Sylweddolodd ei ffrindiau a’r rhai cyfagos yn gyflym fod y sefyllfa’n ddifrifol iawn a dechreuodd CPR ar unwaith.
Derbyniodd Jack a Sam, Ymatebwyr St John Ambulance Cymru, rybudd o’r argyfwng cyfagos ac aethant ar unwaith i leoliad Joe.
Cynorthwyodd y pâr gyda CPR ochr yn ochr â chwmni meddygol preifat a gwylwyr. Ar ôl 5 sioc o ddiffibriliwr a CPR parhaus, dechreuodd Joe anadlu eto.
Fe wnaeth y gweithredu cyflym gan y rhai o’i gwmpas y diwrnod hwnnw, gan gynnwys y CPR prydlon a’r defnydd o ddiffibriliwr, achub ei fywyd. “Roedd y rhai o’i gwmpas yn hollol benderfynol o’i helpu, ac rydym mor ddiolchgar amdanyn nhw,” meddai Heather, gwraig Joe.
Dim ond un o nifer yw stori Joe. Yng Nghymru mae’r gyfradd goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn llai na 5%. Mae St John Ambulance Cymru yn benderfynol o newid hynny.
Mae diffibrilwyr yn achub bywydau bob dydd, a dyna pam ei bod mor bwysig bod pobl Cymru’n teimlo’n gyfforddus yn lleoli a defnyddio’r un agosaf iddynt.
Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrch ‘Defibruary’ a sut y gallwch chi gymryd rhan yma: https://sjacymru.org.uk/defibruary.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle