Mae myfyrwyr wedi dod â blwyddyn fendigedig i ben wrth gael eu galw i gynrychioli eu gwlad.

0
123
Seren Wales cap Cambria

Cafodd Jack Hawkins a Seren Cashen eu dewis i chwarae dros Gymru yn 2023 gan gael eu capiau dros gyfnod yr ŵyl.

Cafodd Jack, sy’n ddysgwr Lefel 3 mewn Chwaraeon, ei ddewis gan Dîm Criced Colegau Cymru, a gwnaeth Seren sy’n astudio Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon ar hyn o brydgynrychioli Tîm Pêl-droed Merched Colegau Cymru.

Seren yw Myfyriwr y FlwyddynChwaraeon Elît Cambria ar hyn o bryd, roedd hi’n chwaraewr amlwg pan chwaraeodd Cymru mewn twrnamaint yn Rhufain yn ystod y Gwanwyn y llynedd. Yno gwnaeth y tîm wynebu tîm XI dethol Dan 21 yr Eidal, ochr ranbarthol, Colegau o Loegr a thimau o Wlad Groeg a Chanada.

Mae Seren yn chwaraewr canol cae gyda Thîm Dan 19 CPD Wrecsam, ychwanegodd hi: “Mae’n fraint i mi ennill cap i Gymru, dwi wedi bod yn gweithio tuag at y nod yma ers oes pys.

Roedd yn brofiad cofiadwy, mi gefais i chwarae gyda chwaraewyr lefel uchel mewn amgylchedd hollol wahanol i’r arfer ac roedd yn gyfle i mi brofi sut mae pêl-droed yn cael ei chwarae mewn gwledydd eraill, sydd wedi fy helpu i wella’n sylweddol.”

“Mi fydda i’n cofio’r profiad o archwilio Rhufain a chwarae yn erbyn gwledydd fel yr Eidal a Lloegr am byth.

“Mae wedi fy helpu i fagu rhagor o hyder fel pêl-droedwraig, yn enwedig gan fy mod i wedi dechrau dwy o’r tair gêm wnaethon ni eu chwarae yn ystod yr wythnos roedden ni yno.”

Jack Wales cap Cambria

Mae Jack yn cyfaddef ei fod wrth ei fodd i gynrychioli ei wlad ac mae’n gobeithio cynrychioli ei wlad eto yn y dyfodol.

Mae’n teimlo’n iawn fy mod i wedi ennill fy nghap oherwydd mi wnes i weithio’n galed i gyrraedd yno a chyflawni un o fy mreuddwydion mwyaf,” meddai.

Roedd y profiad yn dda iawn ac roedd gallu hyfforddi yn yr un cyfleusterau a gweld Sophia Gardens (stadiwm ryngwladol gyda 16,000 o seddi a chartref i Glwb Criced Bro Morgannwg) yn yr un ffordd ag enwogion rhyngwladol y gêm yn rhagorol.

Roedd gallu mynd o amgylch rhai o’r caeau gorau yn Ne Cymru a chael chwarae arnyn nhw yn brofiad swreal a dwi’n edrych ymlaen yn arw at y tro nesaf i mi gael cynrychioli fy ngwlad.”

Mae darlithydd Chwaraeon Danielle Coxey yn eu llongyfarch nhw am eu cyflawniadau, gan ychwanegu: “Rydyn ni’n falch iawn o Seren a Jack am gael eu capiau, mae’r ddau ohonyn nhw wedi gweithio mor galed i’w ennill nhw.

Teithio i ffwrdd ar gyfer treialon a sesiynau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn a pharhau i gyflawni gyda’u hastudiaethau academaidd nhw hefyd – da iawn i chi’ch dau!”

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle