Merch ifanc yn cael ei hachub diolch i ymateb cyflym Hyfforddwr St John Ambulance Cymru

0
193
Capsiwn: Rory Jones, Hyfforddwr Masnachol St John Ambulance Cymru.

Defnyddiodd Hyfforddwr Masnachol St John Ambulance Cymru CPR i achub bywyd merch ifanc, ar ôl ymateb i alwad am help a ddigwyddodd i ddod o’r un gwesty yng Nghaerdydd yr oedd yn aros ynddo.

Er ei fod yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru, roedd Rory Jones yn ymweld â’r brifddinas i gwblhau asesiad fel y gallai ddarparu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar ran yr elusen.

Yn ogystal â gweithio yng Nghanolfan Hyfforddi Abergele St John Ambulance Cymru, mae Rory yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned ac yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hefyd wedi cofrestru gyda GoodSAM, system rhybuddio ataliad y galon y DU, a dyna sut y cafodd wybod am yr argyfwng y bore hwnnw ym mis Rhagfyr 2023.

Roedd Rory yn cysgu yn ei westy pan dderbyniodd rybudd GoodSAM tua 5.45yb. Fe wisgodd yn gyflym ac roedd yn gwneud ei ffordd allan o’r gwesty pan sylweddolodd fod y rhybudd yn dod o’r un adeilad, ar ran rhywun a oedd yn aros ar y llawr oddi tano.

Dywedodd: “Pan gyrhaeddais yr ystafell gwelais ferch fach tua 4 neu 5 oed yn gorwedd ar y llawr ac roedd ei rhieni ar y ffôn i’r Gwasanaeth Ambiwlans. Fe wnes i ei hasesu ac yna sylwais nad oedd hi’n anadlu, felly dechreuais CPR ar unwaith a dechrau rhoi anadliadau achub. Diolch byth, ar ôl un rownd o CPR fe ddechreuodd hi anadlu eto.”

Arhosodd Rory gyda’r ferch a’i theulu nes i’r ambiwlans gyrraedd, gan ei hailasesu, rhoi duvet o’i chwmpas gan ei bod bellach yn gallu ymateb i ddweud ei bod yn oer ac annog ei rhieni i dawelu ei meddwl.

“Cwblheais yr asesiad gyda’r trinwr galwadau argyfwng ac er fy mod yn hyderus yn yr hyn yr oeddwn yn ei wneud, roedd yn wych clywed llais cysurol ar y ffôn.”

Er fe adawodd Rory y lleoliad unwaith i’r ambiwlans gyrraedd, mae wedi clywed ers hynny bod y ferch wedi dychwelyd adref yn ddiogel ar ôl rhai dyddiau yn yr ysbyty.

Ers iddo ymuno â St John Ambulance Cymru ym mis Mawrth 2022 heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol, mae Rory bellach yn gymwys i hyfforddi pobl ar ystod o wahanol gyrsiau cymorth cyntaf, gan gynnwys Cymorth Cyntaf Pediatrig.

Dywedodd Rory: “Dyma’r tro cyntaf i mi berfformio CPR ar blentyn mewn senario bywyd go iawn, ond dim ond ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad roeddwn i’n dysgu pobl eraill sut i wneud hynny.

“Byddwn yn argymell yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant neu’n gwirfoddoli gyda nhw, boed yn glwb pêl-droed neu grŵp tebyg, gan fod cymorth cyntaf pediatrig ychydig yn wahanol.

“Mae hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod eich cymwysterau yn gyfredol. Mae St John Ambulance Cymru yn cynnig cyrsiau gloywi bob tair blynedd ond mae’n well gan rai pobl gwblhau sesiwn gloywi bob blwyddyn.”

Tynnodd Rory sylw hefyd at bwysigrwydd y system rhybuddio GoodSAM, a oedd wedi ei helpu i gyrraedd y lleoliad a gweinyddu CPR yn brydlon.

“Mae GoodSAM yn helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac mae’n fan cyswllt cyntaf gwych gan fod pob munud yn bwysig, yn enwedig pan ddaw’n fater o ataliad ar y galon neu ataliad anadlol. Mae pob munud yn lleihau siawns plentyn o oroesi 10%.”

Dywedodd Rory hefyd ei fod wedi ymateb o’r blaen i un rhybudd GoodSAM arall yn nes at adref a’i fod wedi rhoi CPR yn llwyddiannus i oedolyn y tro hwnnw.

Mae Rory, sy’n 26 oed ac yn byw yn Llanrwst, yn gobeithio mynd i’r Brifysgol ym mis Medi i astudio Gwyddor Parafeddygol.

Ychwanegodd: “Nid oes rhaid i chi gael PHD mewn CPR, gall unrhyw un ei ddysgu a byddwn yn annog unrhyw un sydd â’r hyfforddiant perthnasol i gofrestru ar gyfer GoodSAM.”

I ddarganfod mwy am y cyrsiau hyfforddi St John Ambulance Cymru ewch i www.sjacymru.org.uk/training.

I ddarganfod mwy am GoodSAM ewch i https://www.goodsamapp.org/ukAndEu


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle