Angylion Tân yr Antarctig yn Cwblhau Eu Hantur Ryfeddol

0
252

Mae’r diffoddwyr tân Rebecca Openshaw-Rowe o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Georgina Gilbert o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cwblhau eu hantur ryfeddol i’r Antarctig.

Cychwynnodd Rebecca a Georgina – neu Angylion Tân yr Antarctig, fel maen nhw’n cael eu hadnabod – ar eu hantur ar ddechrau Tachwedd 2023 gan gyrraedd pen eu taith ar Ionawr 12 2024.  Maen nhw wedi cerdded a sgïo dros 1,200km mewn 52 diwrnod, o arfordir Antarctica i Begwn y De – sy’n cyfateb i 29 marathon!

Angylion Tân yr Antarctig yw’r bobl gyntaf erioed i gwblhau’r llwybr yr oedden nhw wedi’i ddewis ac nid oedd unrhyw un yn eu tywys na’u cynorthwyo wrth iddyn nhw dynnu eu cyflenwadau eu hunain a’u slediau offer – pob un yn pwyso dros 100kg. Yn ogystal â chwmpasu’r pellter anhygoel hwn, maen nhw wedi gorfod dioddef amodau eithafol y lle oeraf ar y Ddaear – gyda’r tymheredd yn cyrraedd mor isel â -30°C a chyflymder gwynt o hyd at 60mya.

Cymerodd eu hantur dros bedair blynedd o gynllunio a hyfforddi gofalus, ac un o’r prif nodau oedd herio stereoteipiau rhywedd ac ysbrydoli cenedlaethau o fenywod yn y dyfodol.

Mae Rebecca a Georgina yn fodelau rôl gwych i fenywod a merched ddilyn gyrfa ym mha bynnag faes y maen nhw’n ei ddewis ac maen nhw wedi rhoi cyngor a chymorth i fenywod sy’n mynd drwy’r broses recriwtio diffoddwyr tân.

Mae Angylion Tân yr Antarctig hefyd wedi bod yn codi arian pwysig ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân – sy’n rhoi cymorth gydol oes i aelodau gwasanaethau tân ac achub y DU sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol – ac mae eu Tudalen JustGiving  yn dal i dderbyn rhoddion.

Gallwch edrych yn ôl ar daith Angylion Tân yr Antarctig drwy dudalen olrhain eu taith, sy’n rhoi trosolwg o’u llwybr i Begwn y De ynghyd â blogiau fideo a recordiwyd ganddyn nhw ar hyd y ffordd.

Mae pawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn llongyfarch Rebecca a Georgina ar eu llwyddiant anhygoel.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle