Wnaeth grŵp o godwyr arian ymgymryd â Trochfa’r Tymor blynyddol i godi arian ar gyfer Apêl Gerddi Tywysog Philip.
Bwriad yr Apêl yw codi £100,000 i greu dwy ardd therapiwtig newydd yn yr ysbyty.
Cynhaliwyd 36ain Trochfa’r Tymor Parc Gwledig Pen-bre ar Ŵyl San Steffan ar Draeth Cefn Sidan.
Ymgasglodd cannoedd o bobl ar y traeth i fynd am dro yn y môr at achosion oedd yn agos at eu calonnau, gyda’r mwyafrif yn gwisgo gwisg ffansi a gwisgoedd Nadolig lliwgar.
Dangosodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, ysbryd yr Apêl drwy wisgo i fyny fel gwenynen.
Mae’r wenynen yn ymddangos yn logo’r Apêl fel symbol o gymuned ac adfywio.
Dywedodd Claire: “Cawsom ni i gyd fore gwych. Yn ffodus doedd hi ddim yn rhy oer, a daethom drwyddo gan wybod ein bod yn ei wneud ar gyfer achos mor wych.”
Gyda Claire roedd staff Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, sy’n un o ddwy ward a fydd yn elwa o’r gerddi newydd.
Mae man awyr agored caeedig ar gael ar y ward ond nid yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw’n addas ar gyfer cleifion.
Dywedodd Tom James, Swyddog Cyswllt Teulu Ward Mynydd Mawr: “Rwy’n cymryd rhan mewn ychydig o ddigwyddiadau i helpu i godi’r arian tuag at yr ardd ar dir Mynydd Mawr a fydd yn helpu’r cleifion mewn cymaint o ffyrdd.
“Cymerais ran yn Trochfa’r Tymor a oedd yn llawer o hwyl, a byddaf hefyd yn cymryd rhan mewn Naid am Nawdd.”
Mae Katrina Williams, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau i helpu i gyrraedd y targed o £100,000.
Dywedodd Katrina: “Rydw i’n mynd i ymgymryd â Naid am Nawdd a byddaf yn helpu i drefnu nifer o wahanol ddigwyddiadau gyda’r elw yn mynd tuag at yr Apêl.
“Mae’r gerddi yn arbennig o bwysig i’n cleifion sy’n treulio llawer o amser yn yr ysbyty. Bydd y gerddi yn helpu i’w hadsefydlu a’u cefnogi i godi’n ôl ar eu traed.”
I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i:
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle