Gall mwy o bobl nag erioed o’r blaen ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru i helpu cleifion i oresgyn canserau gwaed ac anhwylderau gwaed, mewn newidiadau a gyflwynwyd i nodi Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror).
Er mai dim ond pobl ifanc 17 i 30 oed oedd yn cael ymuno â’i Gofrestr yn flaenorol, erbyn hyn, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn caniatáu i bobl ifanc 16 oed i gofrestru eu diddordeb ymlaen llaw i ymuno, ac yn codi’r terfyn oedran uchaf i 45 oed ar gyfer gwirfoddolwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Gymysg.
Mae’r newid wedi cael croeso mawr gan gyn-gleifion a goroeswyr ar draws y byd, gan gynnwys Emma Capps, Americanes a oroesodd anhwylder gwaed prin a wnaeth fygwth ei bywyd, ar ôl iddi dderbyn rhodd bôn-gelloedd (sydd yn cael ei alw’n mêr esgyrn hefyd) gan y Cymro 33 oed, Chris Nunn o Ben-y-bont ar Ogwr.
Aeth Emma, o California, UDA, yn ddifrifol wael yn 2015 yn 18 oed ac am flynyddoedd, roedd ei meddygon yn cael trafferth yn ceisio darganfod beth oedd yn achosi ei salwch. Yn y diwedd, cafodd Emma ddiagnosis o fath o anhwylder gwaed o’r enw HLH (haemophagocytic lymphohistiocytosis). Mae HLH yn gyflwr tebyg i lewcemia, sy’n bygwth bywyd, ac mae cleifion yn gorfod mynd drwy gemotherapi, imiwnotherapi, triniaeth steroid neu drawsblaniad bôn-gelloedd, cyn belled ag y gellir dod o hyd i roddwr addas.
Dros 5,000 milltir i ffwrdd yng Nghymru, daethpwyd o hyd i Chris, dieithryn llwyr, a roddodd ei fôn-gelloedd ym mis Mai 2017, i helpu i ddarparu triniaeth achub bywyd i Emma i oresgyn ei salwch.
Aeth Emma ymlaen i ennill dwy radd anrhydedd ar ôl ei gilydd – gradd BA yn y Celfyddydau Llenyddol o Ivy League, Brown University a gradd anrhydedd BFA mewn Darlunio o Rhode Island School of Design. Mae Emma bellach yn astudio TAR mewn Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Caergrawnt yn Lloegr.
Wrth siarad am ei phrofiad, meddai Emma: “Dyn nad oeddwn erioed wedi ei gyfarfod oedd yr unig berson a allai achub fy mywyd. Doedd dim o fy nheulu yn gymwys i roi gwaed, felly cefais fy rhoi ar gofrestr fyd-eang o gleifion oedd yn chwilio am rywun oedd yn cydweddu â nhw – a diolch byth, fe wnes i ddod o hyd i Chris, hanner ffordd o amgylch y byd yng Nghymru!”
Dim ond un o bob pedwar claf fydd yn dod o hyd i aelod o’r teulu sy’n cydweddu â nhw, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o gleifion yn dibynnu ar roddion gan wirfoddolwyr ar gofrestrfeydd ar draws y byd, sydd ddim yn perthyn iddyn nhw.
Aeth Emma ymlaen i ddweud: “Wnes i ddim gwastraffu’r rhodd werthfawr hon. Fe wnes i weithio’n galed iawn i gael fy mywyd nôl ar y trywydd iawn. Chris yw’r rheswm pam fy mod i’n sefyll yma heddiw, ar ôl cyflawni’r holl bethau anhygoel hyn.
“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy’n gobeithio, drwy rannu fy stori, y bydd mwy o bobl yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ymuno â Chofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru.”
Wrth esbonio ei gymhellion dros gofrestru i roi ei fôn-gelloedd, meddai Chris: “Fe wnaeth fy mam farw o ganser pan oeddwn i’n 12 oed, felly pan ddaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru i’n swyddfa a chlywais faint o wahanol ffyrdd y gallwn helpu pobl, roedd yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi gymryd rhan ynddo.
“Fe wnes i gofrestru fel gwirfoddolwr bôn-gelloedd pan roeddwn yn rhoi gwaed mewn clinig symudol, ond does dim angen i chi hyd yn oed fod yn rhoddwr gwaed erbyn hyn, gallwch gofrestru trwy ddefnyddio cit swab, wedi’i ddanfon yn syth i’ch drws.
“Wnes i ddim clywed dim tan 17 mlynedd yn ddiweddarach, pan gefais wybod fy mod yn cydweddu â rhywun mewn angen.
“Fe wnaethon nhw ddweud bod y claf yn fenyw 19 oed ac yn byw yn America, ac fe wnaeth hyn gyffwrdd fy nghalon go iawn, gan fod fy llysfab yn 19 oed ar y pryd hefyd. Ni ddylai unrhyw deulu orfod mynd trwy beth yr aeth teulu Emma drwyddo. Buaswn yn ei wneud o eto ‘fory petasai’n golygu helpu rhywun arall.”
Ar ôl rhoi gwaed, mae polisi dienw dwy flynedd yn atal rhoddwyr a chleifion rhag rhannu gwybodaeth am ei gilydd. Yn y cyfnod hwn, fe wnaeth Emma a Chris ysgrifennu llythyrau at ei gilydd trwy Wasanaeth Gwaed Cymru ac yn y pen draw, fe wnaethant gyfnewid eu manylion cyswllt – a dechrau perthynas hir o anfon e-byst cyn iddynt gyfarfod o’r diwedd y llynedd yn America.
Wrth sôn am ei ymweliad, meddai Chris: “Y tro cyntaf y gwnaethon ni gyfarfod, fe wnaeth Emma redeg tuag ataf yn gweiddi, cyn lapio ei breichiau o fy nghwmpas. Dyna’r foment y daeth yn glir beth roeddwn i wedi’i wneud, a nawr, ‘dwi’n ei chyfrif fel aelod o fy nheulu. Roedd yn un o’r profiadau mwyaf calonogol i mi ei gael erioed.”
Er bod dros 40 miliwn o bobl ar y gofrestr bôn-gelloedd ar draws y byd, ni fydd tri o bob deg claf yn dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, ac mae’r ystadegyn hwn yn mynd i fyny saith o bob deg ar gyfer cleifion o gefndiroedd Du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol.
Meddai Pennaeth Cofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Christopher Harvey: “Mae’r siawns o gael eich dewis fel rhywun sydd yn cydweddu’n berffaith â chlaf unrhyw le yn y byd yn brin iawn, ond mae’r cyfle i ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu sy’n achub bywydau yn cynyddu wrth i fwy o roddwyr gofrestru. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl o gefndir Du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol.
“Dim ots o ble rydych chi’n dod, efallai mai chi yw’r unig berson yn y byd a allai fod yn cydweddu â rhywun, ac achub bywyd rhywun. P’un a ydych chi’n gymwys i ymuno, neu’n adnabod rhywun sydd yn gymwys i ymuno, siaradwch am y Gofrestr hon sy’n newid bywydau, a helpwch i roi cyfle i fwy o gleifion oresgyn eu salwch.”
Mae dwy ffordd o ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru; drwy ofyn am git swab ar-lein, neu drwy roi gwaed. I gefnogi neu gofrestru, ewch i www.welshblood.org.uk .
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle