Mae heddiw’n nodi dechrau ‘Defibruary’, ymgyrch flynyddol St John Ambulance Cymru, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn dilyn ataliad y galon, mae siawns person o oroesi yn cael ei leihau 10% am bob munud sy’n mynd heibio heb weithredu. Mae elusen cymorth cyntaf Cymru eisiau i fwy o bobl ledled y wlad deimlo’n hyderus wrth leoli a defnyddio eu diffibriliwr agosaf, er mwyn i fwy o fywydau gael eu hachub.
Cyn iddo ddysgu sgiliau cymorth cyntaf gyda’r elusen, ni ddychmygodd Dave High, gwirfoddolwr St John Ambulance Cymru, y byddai’n gallu achub bywyd, ond y llynedd yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn Llangollen, fe wnaeth yn union hynny.
Ym mis Gorffennaf 2023, roedd Dave yn gwirfoddoli yn y digwyddiad cerddol pan wnaeth aelod o’r cyhoedd ddioddef ataliad y galon. Defnyddiodd y sgiliau yr oedd wedi’u dysgu gydag St John Ambulance Cymru i helpu i achub bywyd y gŵr gan ddefnyddio CPR a diffibriliwr.
Roedd y gŵr oedrannus wedi llewygu yn y maes parcio y tu allan i’r digwyddiad tua diwedd y cyngerdd. Galwodd gwraig y gŵr a’r rhai gerllaw am help yn gyflym ar sylwi roedd y dyn yn anymatebol. Yn ffodus, roedd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd yn ymweld â’r Eisteddfod gerllaw, a dechreuodd CPR ar unwaith. Aeth Dave ac aelod o’i dîm gwirfoddol, Cassie, i’r lleoliad yn gyflym i helpu gyda dadebru.
Ar ôl sawl rownd o CPR gan wirfoddolwyr a’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd, a siociau amrywiol gan ddiffibriliwr, dechreuodd y claf i anadlu.
“Fel person sydd ddim yn gweithio yn y maes meddygol o gwbl, dyna oedd y peth mwyaf brawychus ond mwyaf boddhaus i mi ei wneud erioed” meddai. “Dwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn i hyd yn oed yn mynd i’r Eisteddfod, heb sôn am achub bywyd wrth wisgo gwisg yr wyf mor falch o allu ei gwisgo.”
Ychwanegodd Dave: “Pan ddigwyddodd y gwaethaf, wnes i ddim gor-feddwl, wnes i ddim oedi, doedd dim teimlad o ‘Rwy’n gobeithio na fyddaf yn gwneud llanast o hyn’.” Yn syml, dilynodd ei hyfforddiant ac o ganlyniad, achubodd fywyd yn llwyddiannus.
Ym mis Chwefror eleni mae’r elusen yn gofyn i bobl Cymru Ddysgu, Lleoli a Rhoi fel y gallant hefyd gamu i mewn i helpu i achub bywyd pe bai rhywun yn agos atynt angen cymorth.
Mae St John Ambulance Cymru yn cynnal arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim i ysgolion, grwpiau cymunedol a chlybiau trwy gydol y mis ac mae’n annog pobl i estyn allan a threfnu sesiwn. I gael gwybodaeth fanylach am gymorth cyntaf, gallwch hefyd archebu lle ar gwrs cymorth cyntaf ardystiedig yn y gweithle gyda’u tîm o hyfforddwyr premiwm.
Gallai dysgu sut i gyflwyno CPR yn gyflym ac yn hyderus a defnyddio diffibriliwr, olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, yn union fel y gwnaeth gyda Dave.
Bydd digwyddiadau cyhoeddus cyntaf yr ymgyrch yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle bydd arddangosiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ddydd Gwener 2 a dydd Sadwrn 3 Chwefror rhwng 10am a 4pm.
Mae’r elusen cymorth cyntaf hefyd yn annog pobl Cymru i ddod o hyd i’w diffibriliwr agosaf a chofrestru unrhyw un y maent yn gyfrifol amdano gyda The Circuit. The Circuit yw’r rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol y mae’r gwasanaethau brys yn ei ddefnyddio i gyfeirio pobl mewn argyfwng. Ewch i http://www.thecircuit.uk i leoli neu gofrestru eich un agosaf heddiw.
Mae’r ymgyrch Defibruary hefyd yn codi arian ar gyfer diffibrilwyr cyhoeddus newydd ar adeiladau Adrannol St John Ambulance Cymru ledled Cymru. Yn ogystal â gweithredu fel canolfannau cymunedol ar gyfer gwirfoddolwyr yr elusen, mae’r adeiladau Adrannol hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi a chymunedol amrywiol.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am ymgyrch Defibruary, ewch i www.sjacymru.org.uk/defibruary i drefnu cwrs neu i wneud cyfraniad heddiw.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle