Elusennau’n ariannu gwasanaeth cymorth colli gwallt newydd ar gyfer cleifion canser

0
207
Pictured: NHS staff receive training in supporting patients with hair loss.

Diolch i’ch rhoddion hael, mae £165,000 o gyllid wedi’i ddyfarnu i wasanaeth cymorth colli gwallt newydd a fydd o fudd i gleifion canser ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi darparu £115,500 i ariannu’r gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ac mae Apêl Uned Ddydd Canser Ysbyty Llwynhelyg wedi darparu £49,500 i ariannu’r gwasanaeth yn Sir Benfro.

Mae’r fenter “Heads Up!” a fydd yn rhedeg am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd, yn darparu gwasanaeth colli gwallt cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cleifion canser. Mae’n dod â gweithwyr gofal iechyd a gofal gwallt proffesiynol o gymunedau lleol ynghyd i roi’r wybodaeth a’r cynhyrchion sydd eu hangen ar gleifion i reoli eu colli gwallt ag urddas a dewis.

Y Bwrdd Iechyd yw’r cyntaf yng Nghymru i redeg menter i wella profiad cleifion o golli gwallt sy’n gysylltiedig â chanser.

Treialwyd y fenter ar draws Sir Benfro gan y gwasanaeth Cancer Hair Care dan ymbarél yr elusen Caring Hair a chydag arian gan Apêl Uned Ddydd Canser Ysbyty Llwynhelyg, gydag arian cyfatebol mewn nwyddau yn cael ei ddarparu gan Caring Hair.

Dywedodd Gina Beard, Nyrs Ganser Arweiniol yn y Bwrdd Iechyd: “Ar hyn o bryd, mae cymorth colli gwallt i gleifion canser yn gyfyngedig, gyda dyletswydd statudol yn unig i hysbysu cleifion y gallai triniaeth achosi colli gwallt ac i ddarparu taleb £90 tuag at wallt gosod.

“Bydd y gwasanaeth newydd yn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at gymorth cyfannol trwy gydol eu taith colli gwallt.

“Yn bwysicaf oll, bydd y gwasanaeth mor hygyrch â phosib. Bydd am ddim wrth y pwynt mynediad i gleifion a’r nod yw bod ar gael ar y safle yn yr ysbytai priodol ac yn y gymuned leol yn ogystal ag o bell.

“Mae diagnosis canser yn dod â llawer iawn o bryder ac ofn yn sgil yr heriau anhysbys sydd o’n blaenau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd “Heads Up!” yn helpu ein cleifion yn fawr gyda’r pryderon ychwanegol am golli gwallt, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi trwy bob cam o driniaeth canser.”

Dywedodd Trish George, Trysorydd Apêl Uned Ddydd Canser Ysbyty Llwynhelyg “Ar ôl ariannu’r peilot gwreiddiol yn Sir Benfro a gweld ei lwyddiant, rydym yn falch iawn o allu ariannu costau cyflwyno’r prosiect cyffrous a buddiol hwn i lawer mwy o drigolion Sir Benfro dros y ddwy flynedd nesaf. Diolch yn fawr iawn i’n holl roddwyr hael sydd wedi ein galluogi i gefnogi’r fenter hon.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

I ddysgu mwy am Apêl Uned Ddydd Canser Ysbyty Llwynhelyg, ewch i: www.whcduappeal.co.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle