Mae rhaglen brentisiaethau arobryn Dŵr Cymru yn ôl ar gyfer 2024

0
246

  • Mae Dŵr Cymru yn agor ei raglen brentisiaethau 2024, gyda 44 swydd wag ar gael
  • Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac mae Dŵr Cymru yn dathlu’r bobl sydd ar brentisiaeth ar hyn o bryd neu sydd wedi bod drwy brentisiaeth ac yn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â’r rhaglen brentisiaeth arobryn
  • Mae prentisiaid yn chwarae rhan hanfodol yn y busnes, gan ddarparu sgiliau a gwytnwch ar gyfer y dyfodol ac yn eu tro yn creu gweithwyr ffyddlon.

Mae Dŵr Cymru, y cwmni dŵr nid-er-elw, yn recriwtio 44 prentis ar gyfer ei raglen yn 2024. Gan gyflawni cyfradd cadw prentisiaid o 80% ers 2018, mae Dŵr Cymru yn ymfalchïo yn ei raglen hyfforddi amrywiol a llwyddiannus, sy’n cynnwys timau gwasanaethau dŵr, dŵr gwastraff, manwerthu a chymorth.

Mae’r cynllun wedi ennill gwobrau yn y gorffennol gan gynnwys y Cynllun Prentisiaeth Gorau gan CIPD Cymru a Phrentisiaeth Ganolradd Orau, Prentisiaeth Uwch Orau a’r Cyflogwr Gorau – Ynni a Chyfleustodau gan School Leavers Awards.

Eleni, mae Dŵr Cymru yn parhau i gynnig swyddi ar draws amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys technegwyr gweithredol a gwasanaeth cwsmeriaid, gan arwain pobl ifanc at lu o yrfaoedd ac arbenigeddau gwahanol.

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024, mae’r cwmni’n myfyrio ar lwyddiant y rhaglen, a’r gallu i dyfu ei dalent ei hun i ddatblygu gweithwyr sy’n llawn cymhelliant a medrusrwydd. Mae gan Dŵr Cymru hanes o gynnig rhaglen brentisiaethau a all arwain pobl at unrhyw swydd, gan gynnwys taith ysbrydoledig ei Brif Swyddog Gweithredol ei hun, Peter Perry, a ymunodd â’r sefydliad fel prentis ar ôl iddo gwblhau ei amser yn yr ysgol.

Mae Dŵr Cymru yn recriwtio tua 30 o brentisiaid bob blwyddyn – rhai sy’n dechrau yn 16 oed, cyn gynted ag y byddant yn gadael yr ysgol, yn ogystal â’r rhai sydd wedi astudio mewn addysg bellach. Eleni, mae gan y cwmni 44 swydd wag ar gyfer prentisiaid newydd fel y gall dyfu ei dalent yn barhaus i ddatblygu gweithlu medrus iawn ar gyfer y dyfodol.

Sam

Ac nid ar gyfer pobl sydd newydd adael addysg yn unig y mae prentisiaethau. Dywedodd Sam Pridgeon, Gweithredwr Carthffosiaeth Dan Hyfforddiant, a ymunodd â ni fel prentis 29 oed y llynedd ar ôl penderfynu  newid gyrfa: ‘Cyn ymuno â Dŵr Cymru, roeddwn i’n gweithio fel dyn bin i gyngor lleol, ac roeddwn i’n barod am newid gyrfa. Doeddwn i ddim wir wedi ystyried prentisiaeth gan fod y stigma o ddechrau eto’n hwyrach mewn bywyd yn codi ofn arna’ i.’

‘Roedd ffrind wedi dweud wrtha i am brentisiaethau Dŵr Cymru, ac roeddwn i’n gwybod fy mod am barhau i weithio yn yr awyr agored, gan ddefnyddio fy nwylo. Ac fe roddodd gyfle i mi ymuno â’r cwmni! Hyd yn hyn, mae fy mhrofiad i wedi bod yn arbennig. Rwy’n gwneud rhywbeth gwahanol drwy’r amser, ac mae pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu i mi. Mae fy nhîm i gyd wedi bod mor groesawgar a chefnogol, ac yn dod â’r gorau allan ohonof.”

Dywedodd Zak Marlow-Payne, prentis Gwasanaeth Cwsmeriaid: “Hyd yn hyn, mae fy nhaith Dŵr Cymru wedi bod yn anhygoel, ac rwyf wedi cael llawer o uchafbwyntiau yn fy amser byr yn y cwmni. Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan fy nghydweithwyr a rheolwyr wedi bod yn wych – rwy’n edrych ymlaen at weld lle mae fy ngyrfa yn datblygu!”

Dywedodd Ffion Hutcheson, Prentis Syrfëwr Meintiau: “Mae cynllun prentisiaid Dŵr Cymru yn cynnig cyfuniad cadarn o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, sydd wedi rhoi set o sgiliau cynhwysfawr i mi. Mae cymhwyso dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn gyson i senarios yn y byd go iawn yn yr amgylchedd gwaith wedi bod yn ffordd wych o ddysgu wrth i mi ennill cyflog.”

Dywedodd Annette Mason, Pennaeth Talent a Chynhwysiant: “Mae prentisiaethau yn arbennig o bwysig i ni yn Dŵr Cymru gan ei fod yn fuddsoddiad effeithiol a hirdymor yn ein talent yn y dyfodol gan arwain at fwy o wydnwch am y blynyddoedd i ddod.”

I gael gwybod mwy am gyfleoedd prentisiaeth Dŵr Cymru 2024 ac i wneud cais, ewch i: https://www.dwrcymru.com/apprentices


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle