Ymarferiad Hyfforddi Gwrthdrawiadau ar y Ffordd yng Ngorsaf Dân Aberystwyth

0
164

Yn ddiweddar, cynhaliodd y criw yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ymarferiad hyfforddi gwrthdrawiadau ar y ffordd aml-asiantaethol.

Daeth yr ymarfer hyfforddi ar gyfer gwrthdrawiadau traffig ffyrdd â diffoddwyr tân o Orsaf Dân Aberystwyth, parafeddygon o Aberystwyth a myfyrwyr meddygol o Brifysgol Abertawe ynghyd i efelychu sefyllfaoedd realistig lle buont yn cydweithio i ymateb i’r math hwn o ddigwyddiad.

 

Bu aelodau o griw Aberystwyth yn ymarfer tynnu pobl oedd wedi eu hanafu o gerbydau’n ddiogel, tra bod y parafeddygon a’r myfyrwyr meddygol yn canolbwyntio ar ddarparu gofal brys yn y fan a’r lle.  Roedd yr ymarferiad yn pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu, gwaith tîm a chydlynu rhwng yr ymatebwyr brys i sicrhau ymateb effeithlon ac effeithiol.

Rhoddodd yr ymarferiad gyfle i ddatblygu a mireinio’r parodrwydd ar gyfer digwyddiadau mewn bywyd go iawn, gwell cydweithredu rhyngasiantaethol a’r cyfle i ddiffoddwyr tân a staff meddygol ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau ei gilydd yn well, gan arwain yn y pen draw at well ymateb brys.

Yn ystod y sesiwn, cafodd y timau meddygol gyfle hefyd i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o offer y mae aelodau’r criw yn eu cario ar injanau tân ac yn eu defnyddio mewn digwyddiadau.

Diolch i bawb a gefnogodd ac a fynychodd yr ymarferiad hyfforddi.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle