Therapydd galwedigaethol Sarah ar pam y bydd gerddi therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip yn gwneud cymaint o wahaniaeth

0
210
Yn y llun uchod: Sarah Collins, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol

Mae Sarah Collins, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol yn Ysbyty Tywysog Philip, wedi siarad am pam y bydd gerddi therapiwtig newydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion.

 Nod Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2023, yw codi £100,000 i greu gerddi therapiwtig newydd yn yr ysbyty.

 Bydd y gerddi newydd ar gyfer cleifion ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, a ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely. Mae’r wardiau wedi’u lleoli drws nesaf i’w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i le awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw’r lle hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw’n addas ar gyfer cleifion.

 Dywedodd Sarah: “Mae’r ymgyrch dros ardd fel hon mor bwysig oherwydd bod cleifion wedi bod yn yr ysbyty am gyfnod sylweddol o amser sy’n achosi datgyflyru, ac mae’n lleihau eu hyder.

 “Mae’r cysyniad o fynd adref yn aml yn gallu bod yn llethol, gallwch chi golli cysylltiad â’r byd y tu allan.

“Manteision cael gerddi fel y rhain fydd y gall staff, teulu a ffrindiau ryngweithio â chleifion mewn amgylchedd llawer mwy naturiol. Byddan nhw’n cael y cyfle a’r lle i archwilio a mynegi eu hunain yn llawer gwell.”

 Wrth siarad am fanteision cael man gwyrdd, dywedodd Sarah: “Gall cael gardd hygyrch gyda gweithgareddau ystyrlon a seddi roi’r cysylltiad hwnnw iddynt â’r byd y tu allan gyda’r manteision gwell o fod yn rhan o natur. Mae’n lle ac yn gyfle i gleifion wella eu hadferiad a’u lles.

 “Gall y cleifion fod yn fwy hamddenol, mae’n gyfle i gael awyr iach a newid golygfeydd, rhoi rhywbeth iddyn nhw siarad amdano. Gall hefyd ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel garddio neu ymarfer corff ysgafn y gellir eu cyfyngu pan fyddant dan do.”

 Pan ofynnwyd iddi pam fod yr Apêl mor bwysig i’r ysbyty, ychwanegodd Sarah: “Mae hwn yn achos y mae mawr ei angen. I lawer o’r cleifion hyn a’u teuluoedd, yr unig beth maen nhw wedi’i weld yw waliau, gwelyau a chadeiriau ysbyty ers sawl wythnos, weithiau misoedd. Bydd cael cyfle i fynd allan yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

 I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/apel-gerddi-ysbyty-tywysog-philip/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle