Trasiedi, uchelgais, a chynllwyn goruwchnaturiol wrth i Macbeth Verdi gyrraedd y llwyfan ar Daith PrifLwyfannau Opera Canolbarth Cymru.

0
207
Macbeth

Mewn dathliad gwefreiddiol o ddrama Shakespeare, mae Opera Canolbarth Cymru yn falch o gyflwyno Macbeth Verdi, a llesmeirio cynulleidfaoedd i fyd hudolus trasiedi, uchelgais a dirgelwch goruwchnaturiol. Mae’r datganiad operatig pwerus hwn yn dod â hanes oesol y Scottish Play yn fyw mewn cynhyrchiad cyfareddol a gyflwynir yn Saesneg ac a berfformir mewn pedair act afaelgar.

Mae’n bleser gan Opera Canolbarth Cymru gyhoeddi bod y tocynnau ar werth yn bob un o leoliadau Taith PrifLwyfannau bellach ar gyfer eu cynhyrchiad o Macbeth Verdi; y cyfuniad perffaith o berfformiad byw a cherddoriaeth i’r rhai sy’n mwynhau Shakespeare, yn ogystal â’r rhai sy’n mwynhau opera.

Mae un o ddramâu mwyaf Shakespeare hefyd yn un o operâu mwyaf Verdi. Dewch i fwynhau stori afaelgar am bŵer, ystryw a dirywiad trasig wrth i Macbeth, cadfridog dewr, ildio i berswâd ei wraig, sy’n arwain at ymgais ddidostur i gipio coron yr Alban. Sgôr odidog Verdi, gyda’i alawon ysgubol a’i harmonïau cymhleth, sy’n gyrru’r naratif seicolegol cyffrous, a chyflwynir tro modern yn Act 4 gyda chorws hudolus o ffoaduriaid. Canir yr opera yn Saesneg, i gyfeiliant Ensemble Cymru a chyda chast mawr, wedi’i ategu gan gorysau cymunedol. Mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno ei gynhyrchiad cyntaf erioed o Macbeth gan Verdi yn benllanw Tymor Shakespeare.

Mae’r opera’n cynnwys cast enfawr o 17 o gantorion proffesiynol, dan arweiniad y bariton o Ganada Jean-Kristof Bouton fel Macbeth, y soprano Gymreig Mari Wyn Williams fel yr Arglwyddes Macbeth, y tenor Cymreig Robyn Lyn Evans fel Macduff a’r baswr-bariton Cymreig

Emyr Wyn Jones fel Banquo. Yn ôl yr arfer, bydd y rhagorol Ensemble Cymru yn ymuno â ni yn y pwll i berfformio trefniant cerddorfaol newydd yr arweinydd, Jonathan Lyness o’r opera. Bydd yr opera’n cael ei pherfformio yn y cyfieithiad Saesneg enwog gan Jeremy Sams.

Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd a’r Arweinydd Jonathan Lyness yn mynegi ei frwdfrydedd ynghylch dod â Macbeth Verdi ar Daith PrifLwyfannau: O blith tair opera Shakespeare Verdi, Macbeth yw’r un y credaf y bydd yn ennyn yr ymateb cryfaf gan gynulleidfaoedd heddiw, gyda’i cherddoriaeth hynod bwerus a chyffrous ac oherwydd y themâu cyfoes sydd i’w gweld trwy’r ddrama oesol hon sy’n ymwneud â thrachwant dirfodol cadfridog milwrol sy’n awchu am bŵer.

Ymunwch ag Opera Canolbarth Cymru ar y daith fythgofiadwy hon i galon trasiedi Shakespeare wrth i Macbeth Verdi ddod i’r llwyfan. Bydd Taith PrifLwyfannau yn dechrau yn Theatr Hafren, Y Drenewydd, ar 2 Mawrth 2024, a bydd yn mynd ymlaen i leoliadau yn Aberystwyth, Bangor, Wrecsam, Casnewydd, Henffordd, Llanelli, Aberdaugleddau, ac yn cyrraedd Aberhonddu ar 23 Mawrth 2024. Mae tocynnau ar gael o bob lleoliad neu drwy www.midwalesopera.co.uk.

Dyddiadau Taith PrifLwyfannau (2024)

2 Mawrth: Theatr Hafren, y Drenewydd

7 Mawrth: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

9 Mawrth: Pontio, Bangor

12 Mawrth: Neuadd William Aston, (Theatr Clwyd)

14 Mawrth: Glan yr Afon, Casnewydd

16 Mawrth: Courtyard, Henffordd

19 Mawrth: Ffwrnes, Llanelli

21 Mawrth: Theatr y Torch, Aberdaugleddau

23 Mawrth: Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Mae’r cynhyrchiad hwn yn digwydd gyda chefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Elusen Gwendoline a Margaret Davies ac Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle