Ras y Barcud Coch yn codi dros £6,000 i Ysbyty Bronglais

0
203

Mae trefnwyr Ras y Barcud Coch wedi codi dros £6,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi a Ward Ystwyth yn Ysbyty Bronglais.

 

Mae Ras y Barcud Coch yn ddigwyddiad rhedeg a cherdded blynyddol, a gynhelir ym Mhontarfynach a’r cyffiniau, yn Aberystwyth. Mae’n cael ei hadnabod fel un o’r rasys llwybr caletaf a mwyaf heriol yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd y ras ar 28 Ebrill 2023.

 

Dywedodd Owain Schiavone, aelod o’r pwyllgor trefnu: “Aeth y codi arian yn dda iawn, er ei fod yn brosiect heriol. Mae trefnu unrhyw ddigwyddiad yn her, ac mae Her y Barcud Coch yn ddigwyddiad mawr yn y calendr chwaraeon ac athletau, ar ben bod yn ddigwyddiad codi arian.

 

“Ar ben hyn, mae yna lawer o gostau yn gysylltiedig â chynnal digwyddiad fel hwn felly bu’n rhaid galw llawer o ffafrau a dod o hyd i noddwyr corfforaethol i dalu am y rhain a sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd yr elusen.

 

“Fel pwyllgor, rydyn ni i gyd yn falch iawn o’n cyflawniadau. Nid yn unig o ran codi arian gwerthfawr, ond hefyd o ran codi ymwybyddiaeth o’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan y GIG a’r angen am gefnogaeth gyson gan gymunedau i helpu i gynnal yr ymdrechion.

 

“Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a fu’n rhan o drefnu’r digwyddiad, y tirfeddianwyr a ganiataodd i’r ras basio trwy eu tir, ein noddwyr digwyddiad, y cyfryngau a roddodd sylw i ni, y cymdeithasau athletau a phawb a helpodd mewn unrhyw ffordd. Diolch yn fawr wrth gwrs i holl aelodau’r pwyllgor a weithiodd mor galed ar y prosiect.”

 

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i drefnwyr Ras y Barcud Coch am gefnogi’r Uned Ddydd Cemotherapi a Ward Ystwyth yn Ysbyty Bronglais ac am godi swm mor wych.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleTeam Evans to take on Llanelli 10k
Next articleRed Kite Race raises over £6,000 for Bronglais
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.