Ysgol gynradd gyntaf Cymru yn cymryd rhan mewn prosiect codi ymwybyddiaeth canser y coluddyn

0
257
Moondance Cancer Initiative Ysgol Pen Rhos

Mae disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Pen Rhos, Llanelli, yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn a sgrinio canser y coluddyn yn eu cymuned fel rhan o gydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Menter Canser Moondance.

Nod Menter Canser Moondance yw gwella cyfraddau goroesi canser yn sylweddol yng Nghymru drwy weithio nid yn unig mewn lleoliadau clinigol ond hefyd yn ein cymunedau. Mae eu prosiect ysgolion yn gobeithio dylanwadu ar newid ymddygiad hirdymor o fewn cenedlaethau iau trwy eu haddysgu am ganser, triniaeth canser, a’r cysylltiad ag ymddygiadau iach.

Ysgol Pen Rhos yw’r ysgol gynradd gyntaf yng Nghymru i groesawu’r prosiect i’w hystafelloedd dosbarth. Ymunodd yr Ymgynghorydd y Colon a’r Rhefr Mr Pawan Dhruva Rao â’r disgyblion, gyda Dr Danielle Cunningham a Dr Johnsingh Sitther, ynghyd â Peyton Jones o Sgrinio Coluddion Cymru a Mrs Johnson, claf â phrofiad byw o ganser y coluddyn.

I ddechrau’r diwrnod, cyflwynodd Mr Dhruva Roa y disgyblion i ganser a’i achosion, a ddilynwyd gan sgwrs fywiog ac addysgiadol am yr hyn y mae ein coluddion yn ei wneud i ni, a beth yw canser y coluddyn. Ar ôl cael croeso cynnes, siaradodd Mrs Johnson yn bwerus ac emosiynol iawn am ei thaith canser y coluddyn ei hun.

Yn ystod y sesiynau rhyngweithiol, bu’r disgyblion yn ymarfer gweithdrefnau’n frwdfrydig gan ddefnyddio’r blychau sgiliau laparosgopig meddygol ac archwilio citiau stoma.

Dywedodd Mr Dhruva Rao, Ymgynghorydd y Colon a’r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydw i wedi bod wrth fy modd yn treulio amser gyda’r disgyblion heddiw. Ni ellir diystyru siarad am goluddyn a phwysigrwydd sgrinio’r coluddyn. Bydd yr hyn y mae’r plant wedi’i ddysgu yn achub bywydau. Allwn i ddim bod yn fwy balch ohonyn nhw a sut wnaethon nhw ymgysylltu â’r sesiwn a’r prosiect. ”

Dywedodd Dr Joe Cudd, Pennaeth, Ysgol Pen Rhos: “Fe wnaethon ni neidio ar y cyfle i weithio gyda Menter Canser Moondance, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Mrs Johnson.

“Mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cyfle i ni gael profiadau dysgu dilys a pherthnasol. Roedd hwn yn gyfle rhagorol i’r disgyblion brofi arbenigedd y bwrdd iechyd yn eu dosbarth. Gobeithiwn y bydd hyn yn cefnogi’r nifer sy’n cael sgrinio’r coluddyn yn ein cymuned hefyd.”

Canser y coluddyn yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin a’r ail laddwr canser mwyaf yng Nghymru. Bob blwyddyn mae mwy na 2,200 o bobl ledled Cymru yn cael diagnosis o’r clefyd ac mae dros 900 o bobl yn marw.

Fe wnaeth y plant hefyd fwynhau’r sesiwn ryngweithiol am drochi carthion ffug mewn pecynnau prawf ffug a alluogodd y disgyblion i archwilio a deall sut mae’r broses sgrinio coluddion yn gweithio.

Dywedodd Peyton Jones, Rheolwr Ansawdd a Gwella Gwasanaeth, Sgrinio Coluddion Cymru: “Mae modd trin canser y coluddyn a’i wella, yn enwedig os caiff diagnosis cynnar. Mae bron pawb yn goroesi canser y coluddyn os cânt ddiagnosis ar y cam cynharaf.

“Dyna pam rydyn ni wedi ein cyffroi’n arbennig gan y sesiwn gyda disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Pen Rhos, gan fod ganddyn nhw bellach wybodaeth bwysig a fydd yn eu helpu i gadw llygad ar eu teulu a’u hanwyliaid, a nhw eu hunain hefyd.”

Darganfod mwy:

Sgrinio Coluddion Cymru: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/sgrinio-coluddion-cymru/

Rhaglen canser y coluddyn Menter Canser Moondance: https://moondance-cancer.wales/projects/bowel-cancer-programme


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle