CNOI CIL MEWN DIGWYDDIAD PARTNERIAETH BWYD LLEOL

0
202
PLFP Event February 2024

     

Yn ddiweddar, daeth tyfwyr cymunedol, cyflenwyr a phartneriaid ehangach sy’n gysylltiedig â’r sector bwyd yn Sir Benfro ynghyd ar gyfer y digwyddiad diweddaraf i’w gynnal gan Bartneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro.

Eisoes, mae’r Bartneriaeth Bwyd Lleol, a reolir gan PLANED mewn partneriaeth â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro, yn gweithio ar hyd a lled cymunedau’r sir i weld sut y gallwn gydgysylltu gweithgareddau bwyd yn well trwy gydweithio.

Yn ychwanegol at hyn, nod y bartneriaeth yw ategu gwaith tyfwyr a chyflenwyr mewn cymunedau ac ystyried sut y gall pob un ohonom gyfrannu at system fwyd fwy cynaliadwy, er mwyn inni allu mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

PLFP Event February 2024

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Goleg Sir Benfro ddydd Mawrth 27 Chwefror, a chafodd ystafell yn llawn mynychwyr glywed gan siaradwyr yn cynnwys Green Up Farm, Cilrath Acre a myfyrwyr Gweithrediaeth Dysgwyr Coleg Sir Benfro. Rhannodd pob un ohonynt eu hanes a’u syniadau ynglŷn â’u prosiectau eu hunain i ategu’r arfer o dyfu a chyflenwi bwyd yn lleol, a hyrwyddwyd llesiant trwy annog pobl i gymryd rhan yn fwy cyffredinol, yn cynnwys canlyniadau arolwg poblogaeth gan y myfyrwyr ynglŷn â phrisiau bwyd a thlodi bwyd.

Fel yr esbonia Sue Latham o PLANED, sy’n cydgysylltu Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro, “Llwyddodd yr amrywiaeth eang o siaradwyr sy’n gysylltiedig â gwahanol agweddau ar y sector bwyd lleol i ysgogi cwestiynau a thrafodaethau gwych yn ein digwyddiad. Roedd arddangosfa Toni ac Alex o Green Up Farm, sef llysiau gwyrdd a dyfir yn fertigol ac yn hydroffonig, yn arbennig o boblogaidd, a bellach mae llawer o bobl yn ystyried y dull hwn fel rhan o ateb ehangach i’n hanghenion bwyd lleol.”

Medd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED, a Chadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y Coleg,Mae’r ffaith bod y Coleg wedi cynnal digwyddiad y Bartneriaeth Bwyd Lleol yn dangos ein bod yn awyddus i gydgysylltu’r gwaith anhygoel sydd ar droed ar hyn o bryd yn ein cymunedau yma yn Sir Benfro gyda’r arloesedd a’r sgiliau a ddarperir ac a gynigir gan y coleg fel rhan o ateb cynaliadwy ar gyfer ymdrin â llesiant bwyd ledled y sir.”

Trwy gyfrwng trefniadau hwyluso a rheoli annibynnol, mae’r cydweithio a hyrwyddir gan y Bartneriaeth Bwyd Lleol yma yn Sir Benfro, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn parhau i esgor ar ganlyniadau hollbwysig a digwyddiadau llwyddiannus sy’n dwyn ynghyd bobl a phrosiectau â buddiannau cyffredin.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan a sut i gefnogi Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro, cysylltwch â bwydfood@planed.org.uk neu 01834 860965.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle